Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.00
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5681
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi nad yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio symiau
canlyniadol Barnett blaenorol gan Lywodraeth y DU i roi'r gallu i awdurdodau
lleol rewi'r dreth gyngor i breswylwyr yng Nghymru;
2. Yn nodi ymhellach y byddai teuluoedd sy'n talu band D
y dreth gyngor yng Nghymru £149.31 y flwyddyn yn gyfoethocach pe bai
Llywodraeth Cymru wedi gweithredu i rewi'r dreth gyngor ym mhob blwyddyn ers
2010;
3. Yn gresynu at y ffaith bod biliau treth gyngor wedi
cynyddu dros 150% yng Nghymru ers 1997/98, ac yn credu bod cynnydd andwyol o'r
fath wedi rhoi pwysau gormodol ar aelwydydd sydd o dan bwysau; a
4. Yn credu bod dyletswydd ar awdurdodau lleol i wario
arian cyhoeddus gyda gofal a phwyll, er mwyn sicrhau bod cyfraddau treth gyngor
yn cael eu gosod mor isel â phosibl i breswylwyr a bod cyfraddau treth gyngor
yn darparu gwerth am arian i'r trethdalwr.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
42 |
53 |
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:
Yn nodi'r sefyllfa ariannol anodd sy'n wynebu llywodraeth
leol ac effaith mesurau llymder Llywodraeth y DU ar wariant cyhoeddus yng
Nghymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
16 |
53 |
Derbyniwyd
gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn credu mai dyletswydd gyntaf awdurdodau lleol yn sgil y
toriad 3.4% ar gyfartaledd yn y setliad refeniw llywodraeth leol yw diogelu
gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
11 |
53 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5681
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi nad yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio symiau
canlyniadol Barnett blaenorol gan Lywodraeth y DU i roi'r gallu i awdurdodau
lleol rewi'r dreth gyngor i breswylwyr yng Nghymru;
2. Yn nodi'r sefyllfa ariannol anodd sy'n wynebu
llywodraeth leol ac effaith mesurau llymder Llywodraeth y DU ar wariant
cyhoeddus yng Nghymru.
3. Yn credu mai dyletswydd gyntaf awdurdodau lleol yn
sgil y toriad 3.4% ar gyfartaledd yn y setliad refeniw llywodraeth leol yw
diogelu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
43 |
53 |
Gwrthodwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 05/02/2015
Dyddiad y penderfyniad: 04/02/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/02/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad