Manylion y penderfyniad
Debate: The Review of Independent Living Adaptations
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.24
NDM5682 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd
gwasanaethau addasiadau a sut maent yn helpu pobl i barhau i fyw'n annibynnol
yn eu cartref eu hunain am gyhyd â phosibl.
2. Yn nodi canfyddiadau'r
Adolygiad o Addasiadau ar gyfer Byw'n Annibynnol, a gyhoeddwyd ar 23 Ionawr
2015.
3. Yn cefnogi gweithredu gan
Lywodraeth Cymru i wella'r cymorth sydd ar gael i bobl sydd angen tai wedi'u
haddasu.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod awdurdodau
lleol yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol i lunio siarter cwsmeriaid yn
amlinellu ymrwymiadau mewn perthynas â gwasanaethau addasiadau;
b) gweithio gydag awdurdodau
lleol a darparwyr tai cymdeithasol i nodi safonau ar gyfer amseroedd darparu a
sicrhau eu bod yn cael eu bodloni gan bob awdurdod lleol;
c) archwilio gwasanaethau
addasiadau i ganfod arfer gorau a'i roi ar waith; a
d) rhoi mecanweithiau ar waith
i fonitro boddhad cwsmeriaid a chanlyniadau tymor hwy.
Derbyniwyd Gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau
o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod y profion modd ar
gyfer addasiadau yn annheg ac yn hen ffasiwn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
11 |
11 |
32 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn nodi argymhellion allweddol
yr ymgyrch Home Truths gan Leonard Cheshire Disability a'r adroddiad No Place
Like Home.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol eithrio mân addasiadau o brofion modd,
fel yr argymhellir yn yr adolygiad.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5682 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau
addasiadau a sut maent yn helpu pobl i barhau i fyw'n annibynnol yn eu cartref
eu hunain am gyhyd â phosibl.
2. Yn nodi canfyddiadau'r
Adolygiad o Addasiadau ar gyfer Byw'n Annibynnol, a gyhoeddwyd ar 23 Ionawr
2015.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i:
a) sicrhau bod awdurdodau
lleol yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol i lunio siarter cwsmeriaid yn
amlinellu ymrwymiadau mewn perthynas â gwasanaethau addasiadau;
b) gweithio gydag awdurdodau
lleol a darparwyr tai cymdeithasol i nodi safonau ar gyfer amseroedd darparu a
sicrhau eu bod yn cael eu bodloni gan bob awdurdod lleol;
c) archwilio gwasanaethau
addasiadau i ganfod arfer gorau a'i roi ar waith; a
d) rhoi mecanweithiau ar waith
i fonitro boddhad cwsmeriaid a chanlyniadau tymor hwy.
4. Yn nodi argymhellion
allweddol yr ymgyrch Home Truths gan Leonard Cheshire Disability a'r adroddiad
No Place Like Home.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol eithrio mân addasiadau o brofion modd,
fel yr argymhellir yn yr adolygiad.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 04/02/2015
Dyddiad y penderfyniad: 03/02/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/02/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad