Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.35
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5665 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
1. Yn nodi:
a) bod Llywodraeth Cymru yn
darparu rhyddhad ardrethi busnesau bach tan fis Mawrth 2015;
b) bod Canghellor y Trysorlys
wedi cyhoeddi yn natganiad yr Hydref ar 3 Rhagfyr 2014 y bydd gan Lywodraeth
Cymru reolaeth lawn dros ardrethi busnes ym mis Mawrth 2015.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ymestyn cymorth ardrethi busnes i fusnesau bach.
3. Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i helpu i gryfhau cysylltiadau rhwng sefydliadau addysg uwch
a'r gymuned fusnes i greu economi fwy dynamig.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
5 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 15/01/2015
Dyddiad y penderfyniad: 14/01/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/01/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad