Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.07
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5654 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Mae Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
1. Yn nodi, o dan y Rhaglen
Lywodraethu bresennol, fod Llywodraeth Cymru wedi methu o ran ei hamcanion
allweddol i gyflawni dros bobl Cymru.
2. Yn gresynu at y ffaith bod
Llywodraeth Cymru wedi methu â chyhoeddi amserlen gyflawn ar gyfer Dangosyddion
Perfformiad Allweddol ar ddechrau'r Cynulliad hwn; a
3. Yn galw ar y Prif Weinidog
i nodi ei bumed flwyddyn yn y swydd drwy gyhoeddi amserlen ar gyfer cyrraedd
targedau ei Lywodraeth o ran:
a) perfformiad y GIG;
b) perfformiad addysgol Cymru
yn erbyn safonau rhyngwladol megis PISA; ac
c) gwelliant mewn perfformiad
economaidd ledled Cymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
37 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac
ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
weithio gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i
sicrhau bod gan Gymru set lawn o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol cyfredol
ar gyfer yr economi.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5654 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Mae Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
1. Yn nodi, o dan y Rhaglen
Lywodraethu bresennol, fod Llywodraeth Cymru wedi methu o ran ei hamcanion
allweddol i gyflawni dros bobl Cymru.
2. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth
Cymru wedi methu â chyhoeddi amserlen gyflawn ar gyfer Dangosyddion Perfformiad
Allweddol ar ddechrau'r Cynulliad hwn;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio
gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i sicrhau
bod gan Gymru set lawn o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol cyfredol ar gyfer
yr economi; a
4. Yn galw ar y Prif Weinidog
i nodi ei bumed flwyddyn yn y swydd drwy gyhoeddi amserlen ar gyfer cyrraedd
targedau ei Lywodraeth o ran:
a) perfformiad y GIG;
b) perfformiad addysgol Cymru
yn erbyn safonau rhyngwladol megis PISA; ac
c) gwelliant mewn perfformiad
economaidd ledled Cymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd
y Dirprwy Lwydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig wedi’i ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 11/12/2014
Dyddiad y penderfyniad: 10/12/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 10/12/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad