Manylion y penderfyniad
Debate on the General Principles of the Well-being of Future Generations (Wales) Bill
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Bil Llywodraeth, a gyflwynwyd gan Jeff Cuthbert AC, y
Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi. Yn dilyn newid i bortffolios gweinidogol
ym mis Medi 2014, nododd y Prif Weinidog mai Carl
Sargeant AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, yw’r aelod
sy’n gyfrifol am y Bil o 11 Medi 2014 ymlaen. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio’r Bil at Y
Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.
Gwybodaeth am y Bil
Prif
ddibenion y Bil yw:
- gosod fframwaith lle bydd awdurdodau
cyhoeddus penodol yng Nghymru yn ceisio sicrhau bod anghenion y presennol
yn cael eu diwallu, heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu
hanghenion eu hunain (yr egwyddor datblygu cynaliadwy),
- gosod nodau llesiant y bydd yr awdurdodau hynny yn ceisio
eu cyflawni er mwyn gwella llesiant nawr ac yn y dyfodol,
- nodi sut y bydd yr awdurdodau hynny yn dangos eu bod yn gweithio
tuag at y nodau llesiant,
- rhoi Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a chynlluniau llesiant lleol
ar sail statudol ac, wrth wneud hynny,
symleiddio’r gofynion presennol o ran cynllunio cymunedol integredig, a
- sefydlu Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i Gymru i fod yn
eiriolwr ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, a fydd yn cynghori a chefnogi
awdurdodau cyhoeddus Cymru wrth gyflawni eu
dyletswyddau o dan y Bil.
Cyfnod presennol
Daeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (gwefan allanol) yn gyfraith
yng Nghymru ar 29 Ebrill 2015 (gwefan allanol).
Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl
a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad
Cenedlaethol Cymru.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.44
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5652 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion
cyffredinol Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).
Gosodwyd Bil Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar
7 Gorffennaf 2014.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor
Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar Fil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)
gerbron y Cynulliad ar 28 Tachwedd 2014.
Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
15 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 10/12/2014
Dyddiad y penderfyniad: 09/12/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad