Manylion y penderfyniad
Debate: Substance Misuse Strategy Annual Report 2014
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.57
NDM5641 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud o ran gweithredu'r strategaeth
camddefnyddio sylweddau 'Gweithio gyda'n Gilydd i Leihau Niwed' fel y manylir
arno yn adroddiad blynyddol 2014.
Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones
(Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyflogwyr yn y gwasanaethau
cyhoeddus yn cefnogi gweithwyr sydd â phroblemau mewn perthynas â
chamddefnyddio sylweddau drwy ymyrraeth gynnar a chefnogaeth i gynnal cyflogaeth.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn llongyfarch arloeswyr therapi dibyniaeth a dulliau sy'n seiliedig ar
adfer yng Nghymru.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Gwelliant 3 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at oedi Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno gwasanaethau haen 4
ar gyfer adsefydlu preswyl a gwasanaethau dadwenwyno cleifion mewn ysbytai ar
sail gynaliadwy a thymor hir yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu cyhoeddi adroddiad y Swyddfa Gartref 'Drugs: International
Comparators' ac yn credu mai'r ffordd orau o helpu defnyddwyr cyffuriau yw drwy
drin camddefnyddio sylweddau fel mater iechyd yn bennaf yn hytrach na mater
troseddol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
43 |
10 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5641 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i
wneud o ran gweithredu'r strategaeth camddefnyddio sylweddau 'Gweithio gyda'n
Gilydd i Leihau Niwed' fel y manylir arno yn adroddiad blynyddol 2014.
2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
sicrhau bod cyflogwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus yn cefnogi gweithwyr sydd â
phroblemau mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau drwy ymyrraeth gynnar a
chefnogaeth i gynnal cyflogaeth.
3.
Yn llongyfarch arloeswyr
therapi dibyniaeth a dulliau sy'n seiliedig ar adfer yng Nghymru.
4.
Yn croesawu cyhoeddi adroddiad
y Swyddfa Gartref 'Drugs: International Comparators' ac yn credu mai'r ffordd
orau o helpu defnyddwyr cyffuriau yw drwy drin camddefnyddio sylweddau fel
mater iechyd yn bennaf yn hytrach na mater troseddol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
41 |
11 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 03/12/2014
Dyddiad y penderfyniad: 02/12/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 02/12/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad