Manylion y penderfyniad
Debate: The Impact of Procurement Policy in Wales
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.19
NDM5640 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:
1. Yn nodi:
a) yr effaith a gafwyd ar gaffael cyhoeddus ers lansio Datganiad Polisi
Caffael Cymru ym mis Rhagfyr 2012;
b) y bydd Datganiad Polisi Caffael Cymru yn cael ei adolygu i fanteisio
ar y newidiadau sydd ar fin digwydd i ddeddfwriaeth caffael yn yr UE a'r DU.
Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones
(Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod:
a) yr effaith gadarnhaol y gall cynyddu cyfran y tendrau yn y sector
cyhoeddus a gaiff eu dyfarnu i gwmnïau o Gymru ei chael ar yr economi a'r
farchnad lafur;
b) cyfrifiad Gwerth Cymru y bydd pob cynnydd o 1% yng nghyfran y tendrau
yn y sector cyhoeddus a gaiff eu dyfarnu i gwmnïau o Gymru yn creu 2,000 o
swyddi newydd.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Gwelliant 2 - Elin Jones
(Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fanteisio ar y newidiadau yn rheolau
caffael yr UE ac anelu at ddyfarnu o leiaf 75% o dendrau sector cyhoeddus i
gwmnïau o Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Elin Jones
(Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu i'w gwneud yn orfodol bod
sefydliadau yn y sector cyhoeddus yn dilyn polisi caffael Llywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
4 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru ddarparu diweddariadau rheolaidd
ynghylch y broses o fabwysiadu Datganiad Polisi Caffael Cymru gan awdurdodau
lleol a'r contractau y maent yn eu dyfarnu.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y gyfran isel o gontractau sy'n mynd i gwmnïau sydd â
phencadlys yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
27 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol bod cyrff cyhoeddus yn
asesu'r economi leol cyn penderfynu sut y dylai contractau caffael cyhoeddus
gael eu bwndelu.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5640 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:
1. Yn nodi:
a) yr effaith a gafwyd ar gaffael cyhoeddus ers lansio Datganiad Polisi
Caffael Cymru ym mis Rhagfyr 2012;
b) y bydd Datganiad Polisi Caffael Cymru yn cael ei adolygu i fanteisio
ar y newidiadau sydd ar fin digwydd i ddeddfwriaeth caffael yn yr UE a'r DU.
2. Yn cydnabod:
a) yr effaith gadarnhaol y gall cynyddu cyfran y tendrau yn y sector
cyhoeddus a gaiff eu dyfarnu i gwmnïau o Gymru ei chael ar yr economi a'r
farchnad lafur;
b) cyfrifiad Gwerth Cymru y bydd pob cynnydd o 1% yng nghyfran y tendrau
yn y sector cyhoeddus a gaiff eu dyfarnu i gwmnïau o Gymru yn creu 2,000 o
swyddi newydd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu i'w gwneud yn orfodol bod
sefydliadau yn y sector cyhoeddus yn dilyn polisi caffael Llywodraeth Cymru.
4. Yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru ddarparu diweddariadau
rheolaidd ynghylch y broses o fabwysiadu Datganiad Polisi Caffael Cymru gan
awdurdodau lleol a'r contractau y maent yn eu dyfarnu.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol bod cyrff cyhoeddus
yn asesu'r economi leol cyn penderfynu sut y dylai contractau caffael cyhoeddus
gael eu bwndelu.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 03/12/2014
Dyddiad y penderfyniad: 02/12/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 02/12/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad