Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.46
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5638 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd adeiladau crefyddol Cymru i dreftadaeth
genedlaethol Cymru.
2. Yn croesawu'r Cynllun Gweithredu ar Dwristiaeth Ffydd a gyhoeddwyd
gan Lywodraeth Cymru, a'r gydnabyddiaeth bod gan adeiladau crefyddol rôl o ran
denu ymwelwyr i Gymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chymunedau ffydd a
rhanddeiliaid eraill i greu cofrestr o adeiladau crefyddol pwysicaf Cymru fel y
gallant gael eu diogelu'n briodol ar gyfer y dyfodol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
4 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 27/11/2014
Dyddiad y penderfyniad: 26/11/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 26/11/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad