Manylion y penderfyniad
Dadl Cyfnod 1 ar y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy
Diben:
Bil Aelod
Cynulliad, a gyflwynwyd gan Bethan Jenkins AC.
Roedd Bethan Jenkins AC yn llwyddiannus yn y balot deddfwriaethol ar 17 Gorffennaf
2013, a rhoddodd y Cynulliad ganiatâd iddi fwrw ymlaen â'i Bil ar 16 Hydref
2013. Cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Bil at y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Gwybodaeth am y Bil
Prif ddiben y
Bil, pan gyflwynwyd ef, oedd rhoi’r ddealltwriaeth a’r gallu ariannol
angenrheidiol i bobl Cymru fel y gallent reoli eu sefyllfa ariannol yn
effeithiol. Drwy wneud hynny, byddai’r cynigion wedi helpu i gynyddu ffyniant
yng Nghymru drwy wella addysg ariannol a gallu ariannol ei dinasyddion.
Rhannwyd cynigion y Mesur yn dri chategori eang:
- gwella gallu ariannol ymysg plant a phobl ifanc
oedran ysgol (rhwng 8 ac 16 oed) drwy ei gwneud yn ofyniad cyfreithiol y
caiff addysg ariannol ei chynnwys yn y cwricwlwm ysgol;
- cryfhau rôl awdurdodau lleol yn helpu pobl i osgoi
anhawster ariannol, drwy ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol
fabwysiadu strategaeth cynhwysiant ariannol;
- rhoi dyletswyddau i awdurdodau lleol o ran rhoi
cyngor a threfnu cyngor ar reolaeth ariannol, yn gyffredinol ac yn benodol
o ran plant 16 neu 17 oed sy’n derbyn gofal, plant a fu'n derbyn gofal yn
flaenorol a myfyrwyr.
Cyfnod presennol
Methodd y Bil yn niwedd y Pedwerydd Cynulliad gan na chafodd ei basio cyn
diwedd y Cynulliad y’i cyflwynwyd ynddo (Rheol Sefydlog 26.77).
Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol
Cymru
Mae’r tabl a
ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad
Cenedlaethol Cymru.
Cyfnod |
Dogfennau |
Cyflwyno’r Bil – 15 Gorffennaf 2014 |
Bil
Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru), fel y’i cyflwynwyd (PDF, 73KB) Memorandwm
Esboniadol (PDF, 1MB) Datganiad
y Llwydd: 15 Gorffennaf 2014 (PDF, 125KB) |
Cyfnod 1 – Pwyllgor yn ystyried yr egwyddorion
cyffredinol |
Bydd y Pwyllgor
yn ystyried y Bil ar y dyddiadau canlynol: Adroddiad
Cyfnod 1 y Pwyllgor (PDF, 377KB) Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (PDF, 1MB) |
Cyfnod 1 – Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion
cyffredinol |
Cynhaliwyd y
ddadl ar yr Egwyddorion Cyffredinol ar 26 Tachwedd 2014.
Tynnwyd y cynnig i gytuno ar yr Egwyddorion Cyffredinol yn ôl gan yr Aelod
sy’n gyfrifol. Felly, ni wnaed unrhyw benderfyniad ar yr Egwyddorion Cyffredinol. Methodd y Bil yn niwedd y Pedwerydd Cynulliad gan na
chafodd ei basio cyn diwedd y Cynulliad y’i cyflwynwyd ynddo (Rheol Sefydlog
26.77). |
Gwybodaeth gyswllt
Mae'r bil wedi
cael ei cyfeirio i'r Pwyllgor Plant,
Pobl Ifanc ac Addysg
Ffôn: 0300 200 6565
Ê-bost: Cysylltu@Cynulliad.Cymru
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.00
NDM5628 Bethan Jenkins
(Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol
(Cymru)
Gosodwyd y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) a'r Memorandwm
Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 15 Gorffennaf 2014.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y Bil
Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 14 Tachwedd 2014.
Tynnwyd y cynnig yn ôl yn unol
â Rheol Sefydlog 12.27
Dyddiad cyhoeddi: 27/11/2014
Dyddiad y penderfyniad: 26/11/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 26/11/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad