Manylion y penderfyniad
Motion under Standing Order 16.5 to Establish an Assembly Committee
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Rhaid i’r Cynulliad ystyried
cynnig a gyflwynir gan y Pwyllgor Busnes i gytuno aelodaeth a chadeirydd pob
pwyllgor a sefydlir drwy benderfyniad gan y Cynulliad.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.29
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan
y cyfnod pleidleisio.
NDM5634
Jane Hutt AC (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 16.5:
1. Yn sefydlu Pwyllgor ar amddiffyn plant rhag cael eu
curo ar sail cosb resymol; a
2. Yn cytuno mai cylch gwaith y Pwyllgor yw craffu ar y
polisi a’r ystyriaethau deddfwriaethol sy’n ymwneud â chael gwared â’r
amddiffyniad “cosb resymol” mewn cysylltiad â churo plentyn, yn sgîl adran 58 o
Ddeddf Plant 2004. Bydd y Pwyllgor yn cael ei ddiddymu yn dilyn y ddadl ar ei
adroddiad.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
21 |
53 |
Derbyniwyd
y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 26/11/2014
Dyddiad y penderfyniad: 25/11/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/11/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad