Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM4799 William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn mynegi
pryder ynghylch y diffyg tryloywder gan Lywodraeth Cymru ynghylch dyfodol llywodraeth leol;
2. Yn cydnabod
pwysigrwydd bod llywodraeth
leol yn rhan
sylfaenol o ddemocratiaeth yng Nghymru; a
3. Yn galw
am ddadl lawn ac agored ynghylch cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
0 |
34 |
56 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le
Yn nodi’r cyfarwyddyd clir a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i lywodraeth leol, gan gynnwys yn y Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol ym mis Gorffennaf ac yn natganiad ysgrifenedig y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i’r Cynulliad ar 13 Gorffennaf 2011.
Linc i bapur “Y dull o gydweithredu’n rhanbarthol: hyrwyddo cysoni” (PC 37-04) ar gyfer cyfarfod y Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol ar 21 Gorffennaf 2011.
http://cymru.gov.uk/topics/localgovernment/partnership/council/agendas/37thmeeting/?skip=1&lang=cy
Linc i Ddatganiad 13 Gorffennaf 2011
http://cymru.gov.uk/about/cabinet/cabinetstatements/2011/13julypublicservices/?lang=cy
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
27 |
56 |
Derbyniwyd
gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl
pwynt 2 ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
Yn cydnabod y pwysau
sylweddol a roddir ar lywodraeth leol
o ganlyniad i’r toriadau mewn cyllid
a orfodwyd gan Lywodraeth y DU.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
17 |
56 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ym mhwynt 3, ar
ôl ‘gwasanaethau cyhoeddus’ rhoi ‘sy’n cynnwys trafodaeth
am ad-drefnu a’r gwasanaethau y tu allan i lywodraeth leol fel iechyd,
addysg uwch ac addysg bellach, trafnidiaeth a datblygu economaidd a chymunedol’.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
44 |
0 |
12 |
56 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig:
Yn dal yn bryderus
am y pwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru i uno awdurdodau lleol drwy is-ddeddfwriaeth.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
39 |
56 |
Gwrthodwyd
gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig:
Yn mynegi pryder
am y posibilrwydd o sefydlu
chwe grŵp rhanbarthol
o awdurdodau lleol yn ogystal â phedwar
grŵp
addysg rhanbarthol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
39 |
56 |
Gwrthodwyd
gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi’r cyfarwyddyd clir a roddwyd gan Lywodraeth
Cymru i lywodraeth leol, gan gynnwys yn
y Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol ym mis Gorffennaf
ac yn natganiad ysgrifenedig y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i’r Cynulliad ar 13 Gorffennaf 2011.
Linc i bapur “Y dull o gydweithredu’n rhanbarthol: hyrwyddo cysoni” (PC 37-04) ar gyfer cyfarfod
y Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol ar 21 Gorffennaf 2011.
http://cymru.gov.uk/topics/localgovernment/partnership/council/agendas/37thmeeting/?skip=1&lang=cy
Linc i Ddatganiad 13 Gorffennaf 2011
http://cymru.gov.uk/about/cabinet/cabinetstatements/2011/13julypublicservices/?lang=cy
2. Yn cydnabod pwysigrwydd bod llywodraeth leol yn rhan sylfaenol o ddemocratiaeth yng Nghymru;
3.
Yn cydnabod y pwysau sylweddol a roddir ar lywodraeth
leol o ganlyniad i’r toriadau mewn
cyllid a orfodwyd gan Lywodraeth y DU; a
4. Yn galw am ddadl lawn ac agored ynghylch cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus sy’n cynnwys trafodaeth am ad-drefnu a’r gwasanaethau y tu allan i lywodraeth leol fel iechyd, addysg uwch ac addysg bellach, trafnidiaeth a datblygu economaidd a chymunedol .
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
27 |
56 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 22/09/2011
Dyddiad y penderfyniad: 21/09/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/09/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad