Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.18
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM5616 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod gan Gymru gyfoeth o adnoddau naturiol.
2. Yn nodi'r rôl bwysig y mae dŵr yn ei chwarae o ran cynaliadwyedd
economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru ar hyn o bryd ac at y dyfodol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried ffyrdd o fanteisio ar
botensial dŵr i economi Cymru.
4. Yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i ymgysylltu ar lefel
genedlaethol a rhyngwladol i sicrhau bod pwysigrwydd adnoddau dŵr i
gymunedau yn cael ei nodi a gweithio tuag at gynnwys gwybodaeth ar labeli
ynghylch ôl troed dŵr cynhyrchion a gwasanaethau.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
12 |
44 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 13/11/2014
Dyddiad y penderfyniad: 12/11/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 12/11/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad