Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.24
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5608 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Cronfa Triniaethau Canser i Gymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
40 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu'r gronfa technolegau
iechyd i gynnwys meddyginiaethau ar gyfer canser a chlefydau eraill.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
6 |
0 |
44 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu popeth ar ôl "sefydlu" a rhoi "dull
gweithredu Cymru gyfan er mwyn sicrhau cysondeb a thegwch o ran mynediad at
driniaethau canser" yn ei le.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
10 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5608 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu dull
gweithredu Cymru gyfan er mwyn sicrhau cysondeb a thegwch o ran mynediad at
driniaethau canser.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
10 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 06/11/2014
Dyddiad y penderfyniad: 05/11/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/11/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad