Manylion y penderfyniad

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.36

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5603 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod pwysigrwydd porthladdoedd i economi Cymru.

 

2. Yn nodi y gallai cynnydd mewn morgludiant byr ym mhorthladdoedd Cymru sicrhau manteision yn y tymor hir.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gwaith gyda WEFO ar ddatblygiadau isadeiledd a rôl porthladdoedd yn y gadwyn gyflenwi ynni adnewyddadwy.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

13

49

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Dyddiad cyhoeddi: 23/10/2014

Dyddiad y penderfyniad: 22/10/2014

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/10/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad