Manylion y penderfyniad
Debate: Future of Devolution for Wales
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd
yr eitem am 16.15
NDM5605
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Elin Jones (Ceredigion)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu ymrwymiad y
Prif Weinidog y bydd Cymru yn rhan ganolog o’r ddadl ar ddyfodol y Deyrnas
Unedig.
2. Yn galw am gyd-drafodaethau
sydd wedi’u llywio gan ganfyddiadau Comisiynau Holtham a Silk 1, gan gynnwys
asesiad diweddar o lefel bresennol cyllid cymharol Cymru ac i ba gyfeiriad y
mae’n debygol o fynd yn y dyfodol.
3. Yn galw ar y trafodaethau
hynny, a ddylai ddechrau ar unwaith a dod i ben erbyn mis Ionawr 2015, i
ganolbwyntio’n benodol ar ariannu teg, gyda’r nod o sicrhau bod cyllid
gwaelodol yn cael ei weithredu ar frys sy’n rhoi sylw i danariannu mewn modd
sy’n gyson ag anghenion Cymru ac sy’n atal cydgyfeirio yn y dyfodol.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU
i:
a) sicrhau bod yr un pwerau’n
cael eu rhoi i Gymru o ran datganoli Treth Gorfforaeth os yw’r pwerau hynny’n
cael eu rhoi i Ogledd Iwerddon a’r Alban;
b) datganoli Toll Teithwyr
Awyr ar gyfer hediadau pellter hir uniongyrchol;
c) adolygu lefel y pwerau
benthyca a roddir i Gymru ym Mil Cymru; a
d) cydweithio â Llywodraeth
Cymru i’w galluogi i gyhoeddi ei bondiau ei hun.
5. Yn ceisio cydnabyddiaeth os
yw penderfyniad yn cael ei gymryd i gynnal Refferendwm ar bwerau amrywio
trethi, y dylai hyn adlewyrchu barn pobl Cymru.
6. Yn ceisio cadarnhad y bydd
y model Cadw Pwerau yn cael ei sefydlu ar gyfer Cymru.
7. Yn galw ar Lywodraeth y DU
i roi’r pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i bennu ei drefniadau
etholiadol.
8. Yn galw ar Lywodraeth y DU
i wneud cynnydd o ran Silk 2.
9. Yn cadarnhau y dylid
datblygu’r materion hyn ymhellach mewn cynigion deddfwriaethol, a gyhoeddir cyn
diwedd sesiwn seneddol bresennol San Steffan.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 22/10/2014
Dyddiad y penderfyniad: 21/10/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/10/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad