Manylion y penderfyniad

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Dadreoleiddio: diwygio deddfwriaeth yn ymwneud â blaendal tenantiaeth

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Defnyddir hwn ble y bydd Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad i Ddeddfu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 18.01

 

NDM5589 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Dadreoleiddio sy'n ymwneud â Phennod 4 o Ran 6 o Ddeddf Tai 2004 (Cynlluniau Blaendal Tenantiaeth) i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 4) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mehefin 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

 

Derbyniwyd y cynig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyddiad cyhoeddi: 07/10/2014

Dyddiad y penderfyniad: 07/10/2014

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 07/10/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad