Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
NDM4786
Nick Ramsay (Mynwy)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) Gydnabod rôl
allweddol twristiaeth yn economi Cymru;
b) Hyrwyddo Cymru
dramor yn gyfan gwbl;
c) Cynyddu nifer y
cwmnïau sy’n allforio o Gymru a gwerth allforion o Gymru;
d) Sicrhau bod
rhagor o fewnfuddsoddi i Gymru yn cael ei annog.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 14/07/2011
Dyddiad y penderfyniad: 13/07/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/07/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad