Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.23
Gohiriwyd y bleidlais ar y
cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5585 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod angen mwy o eglurder o ran dangosyddion perfformiad
allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer ardaloedd menter;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu diweddariadau bob hanner
blwyddyn o ddangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer ardaloedd menter; a
3. Yn nodi'r angen i ymestyn lwfansau cyfalaf uwch i ardaloedd menter
eraill, fel Eryri.
Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig heb ei ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
30 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Ym mhwynt 1, dileu "mwy o eglurder o ran dangosyddion" a rhoi
"adolygu eglurder a dealltwriaeth o ddangosyddion" yn ei le
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
0 |
20 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1:
gan gynnwys datgrynhoi cyllid cyhoeddus a phreifat o fewn y DPA
buddsoddi,
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei
phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y
gwelliant.
Gwelliant 3 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 2:
"ac y dylai'r dangosyddion perfformiad allweddol hynny gynnwys
mesurau o gynhyrchiant ym mhob ardal; a"
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol
Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn
erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 4 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 3, dileu "Yn nodi'r" a rhoi "Yn galw ar
Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i archwilio i'r"
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
36 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Ym mhwynt 3, dileu popeth ar ôl "Yn nodi" a rhoi yn ei le
"y byddai'n ddymunol ymestyn lwfansau cyfalaf uwch i ardaloedd menter
eraill hefyd, fel Eryri, ond yn cydnabod y bydd angen, wrth ystyried ardaloedd
ychwanegol, nodi'r goblygiadau posibl o ran cost a chael cytundeb Llywodraeth y
DU".
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
11 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5585 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod angen adolygu eglurder a dealltwriaeth o ddangosyddion
perfformiad allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer ardaloedd menter;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu diweddariadau bob hanner
blwyddyn o ddangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer ardaloedd menter; a
3. Yn nodi y byddai'n ddymunol ymestyn lwfansau cyfalaf uwch i ardaloedd
menter eraill hefyd, fel Eryri, ond yn cydnabod y bydd angen, wrth ystyried
ardaloedd ychwanegol, nodi'r goblygiadau posibl o ran cost a chael cytundeb
Llywodraeth y DU.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 02/10/2014
Dyddiad y penderfyniad: 01/10/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 01/10/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad