Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.05
NDM5574 Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu'r ffaith yr oedd pobl 16 a 17 oed yn
gallu pleidleisio yn y refferendwm diweddar ar annibyniaeth yr Alban, sef y tro
cyntaf iddynt gael gwneud hynny mewn etholiad arwyddocaol yn y Deyrnas Unedig;
2. Yn cydnabod pwysigrwydd grymuso pobl ifanc yng
Nghymru i ymgysylltu â gwleidyddiaeth a chyfrannu eu safbwyntiau a'u syniadau i
helpu i lunio'r cymunedau lle y maent yn byw;
3. Yn nodi adroddiad y Comisiwn Etholiadol yn 2014
a ganfu nad yw 49% o bobl rhwng 16 a 17 oed yn y DU wedi cofrestru i
bleidleisio ac yn credu bod angen gwneud mwy i annog pobl ifanc i gymryd rhan
mewn democratiaeth; a
4. Yn croesawu'r camau sy'n cael eu cynnig drwy Fil
Cofrestru Pleidleiswyr y DU i gynyddu nifer y bobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn
gwleidyddiaeth drwy rymuso swyddogion cofrestru etholiadol yng Nghymru i wella
prosesau rhannu data a chynyddu nifer y bobl sydd wedi cofrestru o grwpiau sydd
heb gynrychiolaeth ddigonol.
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
11 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 25/09/2014
Dyddiad y penderfyniad: 24/09/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 24/09/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad