Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15:10
NDM5570 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi galwadau gan Gymdeithas Feddygol Prydain am
ymchwiliad annibynnol llawn i wasanaethau'r GIG yng Nghymru ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad o'r fath cyn gynted â phosibl.
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
21 |
0 |
31 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei
ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones
(Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi pryderon y BMA ynghylch anallu Llywodraeth
Cymru i recriwtio a chadw gweithlu meddygol digonol yn y GIG.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 2 - Elin Jones
(Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at doriadau parhaus Llywodraeth y DU i
wariant cyhoeddus a'r effaith ar fuddsoddi yn ein GIG.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
16 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi galwadau gan y BMA y dylid rhoi ystyriaeth i
lefelau staffio diogel a gofynnol ar draws gofal sylfaenol, eilaidd a
chymunedol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn
y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5570 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.Yn nodi galwadau gan Gymdeithas Feddygol Prydain
am ymchwiliad annibynnol llawn i wasanaethau'r GIG yng Nghymru ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad o'r fath cyn gynted â phosibl.
2.Yn gresynu at doriadau parhaus Llywodraeth y DU i
wariant cyhoeddus a'r effaith ar fuddsoddi yn ein GIG.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
42 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i
ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 25/09/2014
Dyddiad y penderfyniad: 24/09/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 24/09/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad