Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15:53
NDM5565 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu bod Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a
Lloegr yn well gyda’i gilydd ac y dylai’r Alban ddewis aros yn y DU ar 18 Medi
2014.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
37 |
46 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones
(Ceredigion)
Dileu popeth ar ôl 'Cynulliad Cenedlaethol Cymru' a
rhoi yn ei le:
1. Yn credu bod dyfodol yr Alban yn fater i bobl yr
Alban.
2. Yn credu ymhellach mai'r ffordd orau o
wasanaethu'r cysylltiadau cryf rhwng cenhedloedd yr ynysoedd hyn yw drwy ysbryd
o gydweithredu a chydraddoldeb.
3. Yn nodi y byddai ymwreiddio'r Fformiwla Barnett,
fel yr addawyd gan bleidiau'r DU yn yr ymgyrch 'Na' ar gyfer y refferendwm ar
18 Medi 2014, yn niweidiol i Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
37 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro
Morgannwg), Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai Cymru, beth bynnag fo'r canlyniad,
siarad ag un llais, ac yn galw am weithredu'n gyflym yr argymhellion yn Rhannau
1 a 2 o'r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru ac am sefydlu confensiwn
cyfansoddiadau ledled y DU i greu cynllun drafft am undeb newydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
37 |
9 |
0 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5565 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a
Lloegr yn well gyda’i gilydd ac y dylai’r Alban ddewis aros yn y DU ar 18 Medi
2014.
2. Yn credu y dylai Cymru, beth bynnag fo'r
canlyniad, siarad ag un llais, ac yn galw am weithredu'n gyflym yr argymhellion
yn Rhannau 1 a 2 o'r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru ac am sefydlu
confensiwn cyfansoddiadau ledled y DU i greu cynllun drafft am undeb newydd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
28 |
9 |
9 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 18/09/2014
Dyddiad y penderfyniad: 17/09/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/09/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad