Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.15
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5534
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r digwyddiadau diweddar i goffáu D-Day, Diwrnod
Lluoedd Arfog y DU a chanmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf;
2. Yn gwerthfawrogi cyfraniadau milwyr o Gymru, yn ddynion a
menywod, ac yn cydnabod yr anawsterau y gallant eu hwynebu ar ôl dychwelyd i
fywyd sifil;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Cynllun Cerdyn
Cyn-filwyr i Gymru i alluogi:
a) ehangu'r cynllun prisiau consesiynol presennol i gynnwys
cyn-filwyr
b) mynediad am ddim i byllau nofio awdurdodau lleol i
gyn-filwyr
c) mynediad am ddim i safleoedd Cadw i gyn-filwyr
d) blaenoriaeth o ran triniaeth ar gyfer cyflyrau/anafiadau
sy'n gysylltiedig â gwasanaeth milwrol ar y GIG
e) blaenoriaeth o ran darparu Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl
i gyn-filwyr y mae angen addasiadau i'r cartref arnynt.
4. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i archwilio'r
potensial i godi cofeb Gymreig yn yr Ardd Goed Genedlaethol yn Swydd Stafford,
i gofio ac anrhydeddu'r holl ddynion a menywod dewr o Gymru a ymladdodd ac a
gollodd eu bywydau yn gwasanaethu'r genedl.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
36 |
46 |
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at y ffaith bod toriadau i fudd-daliadau ar gyfer
pobl anabl, gan gynnwys y dreth ystafell wely, yn effeithio ar gyn-aelodau’r
Lluoedd Arfog a’r rhai sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
14 |
46 |
Derbyniwyd
gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu’r cyhoeddiad yn Rhaglen Ddeddfwriaethol
Llywodraeth y DU am gynigion ar gyfer Bil Cwynion am Wasanaethau, er mwyn
gwella’r system gwynion yn y Lluoedd Arfog drwy sefydlu Ombwdsmon ar gyfer
milwyr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
37 |
9 |
0 |
46 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwelliant
3 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Ym mhwynt 3, dileu ‘sefydlu’ a rhoi ‘ystyried’ yn ei le.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
10 |
46 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant
4 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwasanaeth iechyd
yn darparu cefnogaeth ddigonol ar gyfer cyn-aelodau’r lluoedd arfog sydd ag
Anhwylder Straen wedi Trawma.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
0 |
46 |
Derbyniwyd
gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM5534
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r digwyddiadau diweddar i goffáu D-Day, Diwrnod Lluoedd
Arfog y DU a chanmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf;
2. Yn gwerthfawrogi cyfraniadau milwyr o Gymru, yn ddynion a
menywod, ac yn cydnabod yr anawsterau y gallant eu hwynebu ar ôl dychwelyd i
fywyd sifil;
3. Yn croesawu’r cyhoeddiad yn Rhaglen Ddeddfwriaethol
Llywodraeth y DU am gynigion ar gyfer Bil Cwynion am Wasanaethau, er mwyn
gwella’r system gwynion yn y Lluoedd Arfog drwy sefydlu Ombwdsmon ar gyfer
milwyr.
4. Yn gresynu at y ffaith bod toriadau i fudd-daliadau ar
gyfer pobl anabl, gan gynnwys y dreth ystafell wely, yn effeithio ar
gyn-aelodau’r Lluoedd Arfog a’r rhai sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried Cynllun Cerdyn
Cyn-filwyr i Gymru i alluogi:
a) ehangu'r cynllun prisiau consesiynol presennol i gynnwys
cyn-filwyr
b) mynediad am ddim i byllau nofio awdurdodau lleol i
gyn-filwyr
c) mynediad am ddim i safleoedd Cadw i gyn-filwyr
d) blaenoriaeth o ran triniaeth ar gyfer cyflyrau/anafiadau
sy'n gysylltiedig â gwasanaeth milwrol ar y GIG
e) blaenoriaeth o ran darparu Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl
i gyn-filwyr y mae angen addasiadau i'r cartref arnynt.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwasanaeth
iechyd yn darparu cefnogaeth ddigonol ar gyfer cyn-aelodau’r lluoedd arfog sydd
ag Anhwylder Straen wedi Trawma.
7. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i archwilio'r
potensial i godi cofeb Gymreig yn yr Ardd Goed Genedlaethol yn Swydd Stafford,
i gofio ac anrhydeddu'r holl ddynion a menywod dewr o Gymru a ymladdodd ac a
gollodd eu bywydau yn gwasanaethu'r genedl.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
32 |
4 |
10 |
46 |
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 26/06/2014
Dyddiad y penderfyniad: 25/06/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/06/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad