Manylion y penderfyniad

Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Caiff Aelodau’r Cynulliad ofyn Cwestiynau Llafar i Gomisiynwyr y Cynulliad am unrhyw fater sy’n rhan o’u meysydd cyfrifoldeb.

Bydd y Comisiynwyr yn ateb cwestiynau bob pedair wythnos y bydd y Cynulliad yn cyfarfod mewn Cyfarfod Llawn. Caiff cwestiynau llafar eu hateb yn ystod sesiwn gwestiynau ddynodedig yn  y Cyfarfod Llawn. 

Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu ar enwau’r Aelodau a gaiff gyflwyno’r cwestiynau. Gellir cynnwys enw unrhyw Aelod yn y balot.

Ar ôl dewis yr enwau, rhaid i’r Aelodau gyflwyno’u cwestiynau o leiaf bum diwrnod cyn y disgwylir iddynt gael eu hateb. Caiff y drefn y gofynnir y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn ei phennu ar hap gan gyfrifiadur.

 

Penderfyniad:

Gofynnwyd yr 11 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 1, 3 a 7 eu grwpio. Cafodd cwestiynau 1, 3, 4, 5, 7 a 10 eu hateb gan Rhodri Glyn Thomas. Cafodd cwestiwn 2 ei ateb gan Angela Burns. Cafodd cwestiwn 6 ei ateb gan Peter Black. Cafodd cwestiwn 9 ei ateb gan Sandy Mewies. Tynnwyd cwestiynau 8 ac 11 yn ôl.

Dyddiad cyhoeddi: 07/07/2011

Dyddiad y penderfyniad: 06/07/2011

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 06/07/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad