Manylion y penderfyniad
Debate: Improving Mental Health
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd
yr eitem am 16.21
NDM5521 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i wella
iechyd meddwl a lles yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed: Adolygiad
Dilynol o Faterion Diogelwch 2013, wedi canfod bod “plant a phobl ifanc yn
parhau i wynebu risg oherwydd eu bod yn cael eu derbyn yn amhriodol i wardiau
iechyd meddwl oedolion” ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu gweithdrefn
gadarnach i fyrddau iechyd adrodd ar leoliadau amhriodol ar wardiau iechyd
meddwl oedolion.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno fframwaith cenedlaethol i sicrhau
parhad triniaeth yn y cyfnod pontio rhwng Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r
Glasoed a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion, gan gynnwys system wedi ei
symleiddio i rannu gwybodaeth rhwng darparwyr.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr angen i wella trefniadau pontio ar gyfer y rheiny sy'n
symud o’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed i'r Gwasanaethau Iechyd
Meddwl i Oedolion.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i neilltuo gwariant ar gyfer
gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru ac yn galw am drefniadau monitro gwell
gan fyrddau iechyd lleol er mwyn sicrhau y cyflawnir yr ymrwymiad hwn.
Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r cysylltiadau rhwng iechyd meddwl a lles gwael a ffactorau
economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol anffafriol a ffactorau croes eraill,
ac yn galw am gydweithrediad gwell rhwng y GIG ac awdurdodau lleol er mwyn mynd
i'r afael â'r rhain.
Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig
a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi nodi problemau difrifol
o ganlyniad i brinder gwelyau mewn wardiau gofal aciwt, ac yn nodi y gallai’r
prinder hwn arwain at ddefnyddio celloedd yr heddlu yn amhriodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned, ac yn gresynu
at y problemau sy’n parhau i godi wrth geisio cael mynediad at y gwasanaethau
hyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
27 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod amseroedd aros ar gyfer y gwasanaethau iechyd
meddwl plant a’r glasoed wedi dirywio’n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Gwelliant 9 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o’r Fframwaith Anhwylderau
Bwyta.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 9.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5521 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i wella iechyd meddwl a
lles yng Nghymru.
2. Yn nodi bod Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed: Adolygiad
Dilynol o Faterion Diogelwch 2013, wedi canfod bod “plant a phobl ifanc yn parhau
i wynebu risg oherwydd eu bod yn cael eu derbyn yn amhriodol i wardiau iechyd
meddwl oedolion” ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu gweithdrefn gadarnach
i fyrddau iechyd adrodd ar leoliadau amhriodol ar wardiau iechyd meddwl
oedolion.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno fframwaith cenedlaethol i sicrhau
parhad triniaeth yn y cyfnod pontio rhwng Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r
Glasoed a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion, gan gynnwys system wedi ei
symleiddio i rannu gwybodaeth rhwng darparwyr.
4. Yn cydnabod yr angen i wella trefniadau pontio ar gyfer y rheiny sy'n
symud o’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed i'r Gwasanaethau Iechyd
Meddwl i Oedolion.
5. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i neilltuo gwariant ar gyfer
gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru ac yn galw am drefniadau monitro gwell
gan fyrddau iechyd lleol er mwyn sicrhau y cyflawnir yr ymrwymiad hwn.
6. Yn nodi’r cysylltiadau rhwng iechyd meddwl a lles gwael a ffactorau
economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol anffafriol a ffactorau croes eraill,
ac yn galw am gydweithrediad gwell rhwng y GIG ac awdurdodau lleol er mwyn mynd
i'r afael â'r rhain.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o’r Fframwaith Anhwylderau
Bwyta.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 11/06/2014
Dyddiad y penderfyniad: 10/06/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 10/06/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad