Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.42
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5520 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd yr economi ddigidol, a datblygu seilwaith i'w
chynnal.
2. Yn gresynu bod ardaloedd yng Nghymru o hyd lle nad oes fawr ddim
darpariaeth band eang neu 3G, os o gwbl, a'r effaith andwyol y mae hyn yn ei
chael ar fusnesau ac unigolion.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi manylion
ynghylch sut y bydd y £12 miliwn o’r cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU ar
gyfer Cyflymu Cymru yn cael ei ddyrannu.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
14 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 05/06/2014
Dyddiad y penderfyniad: 04/06/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/06/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad