Manylion y penderfyniad
Debate: Governance of National Parks and Areas of Outstanding Natural Beauty in Wales
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.03
NDM5516 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod gwerth presennol a gwerth posibl tirweddau dynodedig Cymru
i amgylchedd, economi, iechyd, lles ac ansawdd bywyd pobl Cymru.
2. Yn nodi’r adolygiad sydd yn yr arfaeth o drefniadau llywodraethu ar
gyfer tirweddau dynodedig yng Nghymru.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn unol â
hynny:
Yn dathlu cyfraniad tri pharc cenedlaethol Cymru at ein treftadaeth ac yn
cefnogi'r rôl y maent yn parhau i'w chwarae yn hybu hunaniaeth unigryw Cymru.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar weddill y gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â
hynny:
Yn credu y byddai mwy o atebolrwydd democrataidd yn arwain at wella’r modd
y mae’r parciau cenedlaethol yn cael eu llywodraethu ac yn gwella’r berthynas
rhwng awdurdodau’r parciau a’r trefi a’r cymunedau sydd o fewn eu ffiniau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
25 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r argymhellion yn ymwneud â pharciau cenedlaethol yn yr adroddiad
a gyhoeddwyd gan y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus ac
yn credu bod angen rhoi pecyn cynhwysfawr o ddiwygiadau ar waith cyn gynted ag
y bo modd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
34 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5516 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn dathlu cyfraniad tri pharc cenedlaethol
Cymru at ein treftadaeth ac yn cefnogi'r rôl y maent yn parhau i'w chwarae yn
hybu hunaniaeth unigryw Cymru.
2. Yn cydnabod gwerth presennol a gwerth posibl tirweddau dynodedig Cymru
i amgylchedd, economi, iechyd, lles ac ansawdd bywyd pobl Cymru.
3. Yn nodi’r adolygiad sydd yn yr arfaeth o drefniadau
llywodraethu ar gyfer tirweddau dynodedig yng Nghymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 04/06/2014
Dyddiad y penderfyniad: 03/06/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/06/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad