Manylion y penderfyniad
Debate: Tackling Hate Crimes and Incidents - A Framework for Action
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.10
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5507
Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi ‘Mynd i’r Afael â
Throseddau a Digwyddiadau Casineb: Fframwaith Gweithredu’ a’r Cynllun Cyflawni
ategol, a lansiwyd ar 12 Mai 2014.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r pryder a fynegwyd gan y Cyngor Cydraddoldeb Hiliol
yng Nghyfarfod Fforwm Hil Cymru ar 13 Mawrth 2014 bod materion yn ymwneud â hil
yn isel ar yr agenda i Lywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
22 |
0 |
24 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu bod Llywodraeth y DU wedi sefydlu cofnodi a chyhoeddi
troseddau casineb yn briodol am y tro cyntaf.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
8 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod
gan gynghorau ysgol a llywodraethwyr ysgol, yn ogystal ag athrawon, teuluoedd
a’r gymdeithas ehangach, rôl i’w chwarae i atal bwlio.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
0 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5507
Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi ‘Mynd i’r Afael â
Throseddau a Digwyddiadau Casineb: Fframwaith Gweithredu’ a’r Cynllun Cyflawni
ategol, a lansiwyd ar 12 Mai 2014.
2.
Yn croesawu bod Llywodraeth y DU
wedi sefydlu cofnodi a chyhoeddi troseddau casineb yn briodol am y tro cyntaf.
3.
Yn croesawu’r ffaith bod
Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod gan gynghorau ysgol a llywodraethwyr ysgol,
yn ogystal ag athrawon, teuluoedd a’r gymdeithas ehangach, rôl i’w chwarae i
atal bwlio.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
0 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 21/05/2014
Dyddiad y penderfyniad: 20/05/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/05/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad