Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.22
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5497 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod nifer y busnesau bach a
chanddynt werth ardrethol o hyd at £12,000 yng Nghymru bellach yn 73% o bob
busnes;
2. Yn cydnabod y bydd gan Lywodraeth Cymru
gyfrifoldeb llawn am ardrethi busnes pan fydd Bil Cymru wedi cael Cydsyniad
Brenhinol;
3. Yn cydnabod bod cydbwysedd rhwng manwerthwyr
y trydydd sector a manwerthwyr annibynnol yn hanfodol i gynnal y stryd fawr;
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) Ystyried manteision rhannu lluosydd Cymru yn
fusnesau bach a mawr i sicrhau bod Cymru yn unol â'r Alban a Lloegr;
b) Adfywio rhyddhad caledi, sy'n hanfodol i fusnesau bach.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
12 |
48 |
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 08/05/2014
Dyddiad y penderfyniad: 07/05/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 07/05/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad