Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.02
NDM5494 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r effaith economaidd a chymdeithasol
gadarnhaol y mae'r dafarn yn ei chael ar gymunedau lleol.
2. Yn nodi ymhellach y gwaith nodedig sy'n cael
ei wneud gan gynlluniau fel Pub is the Hub, ledled Cymru a Lloegr, o ran
sicrhau y gall tafarnau ganolbwyntio mwy ar y gymuned.
3. Yn cydnabod bod yr astudiaethau achos gan
grwpiau ymgyrchu, fel Pub is the Hub a'r Campaign for Real Ale, yn astudiaethau
pwysig i ddysgu ohonynt.
4. Yn gresynu bod ystadegau diweddar y Campaign
for Real Ale yn awgrymu bod tair tafarn yr wythnos yn cau yng Nghymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n fwy effeithiol gyda’r diwydiant
tafarnau yng Nghymru i sicrhau llwyddiant parhaus tafarnau Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 01/05/2014
Dyddiad y penderfyniad: 30/04/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 30/04/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad