Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.56
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5484 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi dangosyddion y Rhaglen Lywodraethu;
2. Yn galw ar y Prif Weinidog i egluro'r rôl y
mae Uned Gyflawni'r Prif Weinidog yn ei chwarae o ran cyflawni’r dangosyddion
hyn;
3. Yn gresynu at fethiant ymddangosiadol yr Uned Gyflawni i gyflawni
amcanion polisi Llywodraeth Cymru yn well yn achos cyflenwi gwasanaethau
cyhoeddus yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
37 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn nodi canfyddiadau adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu
Gwasanaethau Cyhoeddus o ran dangosyddion y Rhaglen Lywodraethu;
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi dangosyddion ystadegol a thargedau
ochr yn ochr â holl strategaethau a pholisïau’r Llywodraeth.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5484 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi dangosyddion y Rhaglen Lywodraethu;
2. Yn nodi canfyddiadau adroddiad y Comisiwn ar
Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus o ran dangosyddion y Rhaglen
Lywodraethu;
3. Yn galw ar y Prif Weinidog i egluro'r rôl y
mae Uned Gyflawni'r Prif Weinidog yn ei chwarae o ran cyflawni’r dangosyddion
hyn;
4. Yn gresynu at fethiant ymddangosiadol yr Uned Gyflawni i gyflawni
amcanion polisi Llywodraeth Cymru yn well yn achos cyflenwi gwasanaethau
cyhoeddus yng Nghymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 03/04/2014
Dyddiad y penderfyniad: 02/04/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 02/04/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad