Manylion y penderfyniad
Dadl: Darparu Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.58
NDM5474 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei
wneud gyda’r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru i ddarparu cymunedau diogelach
i ddinasyddion.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi gyda phryder y cynnydd yn nifer yr ymosodiadau ar griwiau tân ac
achub ac effaith hyn ar sicrhau cymunedau mwy diogel.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru, y Gwasanaethau Tân ac Achub a’r trydydd
sector i gynnal gwerthusiad cadarn ar y cyd o ymyriadau diogelwch tân.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y gwaith hanfodol y mae diffoddwyr tân yn ei wneud– a bod
cymunedau Cymru yn dibynnu arnynt am lawer mwy na diffodd tân.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y
cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid cael dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer y gwasanaeth
tân ac achub lle mae penderfyniadau gweithredol strategol yn cael eu gwneud ar
sail anghenion y gwasanaeth.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
11 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion i edrych ar strwythur
Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
11 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agos gyda'r Awdurdodau Tân ac
Achub i sicrhau bod y ddarpariaeth yn briodol, yn enwedig mewn ardaloedd
gwledig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5474 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.Yn nodi’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei
wneud gyda’r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru i ddarparu cymunedau
diogelach i ddinasyddion.
2. Yn nodi gyda phryder y cynnydd yn nifer yr ymosodiadau ar griwiau tân ac
achub ac effaith hyn ar sicrhau cymunedau mwy diogel.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, y Gwasanaethau Tân ac Achub a’r trydydd
sector i gynnal gwerthusiad cadarn ar y cyd o ymyriadau diogelwch tân.
4. Yn cydnabod y gwaith hanfodol y mae diffoddwyr tân yn ei wneud– a bod
cymunedau Cymru yn dibynnu arnynt am lawer mwy na diffodd tân.
5. Yn credu y dylid cael dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer y
gwasanaeth tân ac achub lle mae penderfyniadau gweithredol strategol yn cael eu
gwneud ar sail anghenion y gwasanaeth.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion i edrych ar strwythur
Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agos gyda'r Awdurdodau Tân ac
Achub i sicrhau bod y ddarpariaeth yn briodol, yn enwedig mewn ardaloedd
gwledig.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
11 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 26/03/2014
Dyddiad y penderfyniad: 25/03/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/03/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad