Manylion y penderfyniad
Debate on Improving School Standards
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
NDM4775 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) Sefydlu’r Uned Safonau Ysgolion;
b) Creu system fandio (categoreiddio) ar gyfer ysgolion;
c) Y cynnydd sydd wedi’i wneud
ar yr 20 pwynt gweithredu ar gyfer gwella
ysgolion a bennwyd gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn ei ddatganiad
ar 2 Chwefror 2011.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliant o dan yr eitem hon
tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Nick Ramsay (Mynwy)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr Uned Safonau Ysgolion yn atebol, yn deg, yn dryloyw ac yn cael ei monitro’n rheolaidd.
2. Yn nodi bod system bandio (categoreiddio) ysgolion yn cael ei chreu.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gynyddu a chynnal y momentwm o ran symud ymlaen â’r
cynllun 20 pwynt yn y datganiad a wnaethpwyd gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar 2 Chwefror
2011, er mwyn sicrhau nad yw
Cymru’n disgyn fwy ar ei
hôl hi ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
29 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt b) ar ôl ‘ysgolion’ rhoi:
‘ond yn annog y Llywodraeth
i osgoi camgymeriadau tablau cynghrair ysgolion yn y gorffennol’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd is-bwynt b):
‘, ac yn galw ar y Llywodraeth
i gyhoeddi’r dangosyddion,
y fethodoleg a’r strwythur graddio a ddefnyddir fel rhan o’r system hon.’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi fformat ac arddull y profion llythrennedd a rhifedd newydd ac amlinellu faint o amser y mae’n disgwyl
y bydd athrawon yn ei dreulio
yn gweinyddu a marcio’r profion hyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
29 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu mai’r ffordd fwyaf
effeithiol y bydd ysgolion Cymru yn codi safonau
ysgolion yw drwy gael mwy
o gyllid i ysgolion, drwy gyflwyno premiwm
disgybl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
39 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4775 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) Sefydlu’r Uned Safonau Ysgolion;
b) Creu system fandio (categoreiddio) ar gyfer ysgolion ond yn annog y Llywodraeth i osgoi camgymeriadau tablau cynghrair ysgolion yn y gorffennol ac yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi’r dangosyddion, y fethodoleg a’r strwythur graddio a ddefnyddir fel rhan o’r system hon;
c) Y cynnydd sydd wedi’i wneud
ar yr 20 pwynt gweithredu ar gyfer gwella
ysgolion a bennwyd gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn ei ddatganiad
ar 2 Chwefror 2011.
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
12 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 04/07/2011
Dyddiad y penderfyniad: 05/07/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/07/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad