Manylion y penderfyniad
Debate: Tackling Housing Related Anti-Social Behaviour
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.45
NDM5475 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr effaith negyddol y mae
ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n ymwneud â thai yn gallu ei chael ar bobl ac ar
eu hiechyd a’u lles;
2. Yn nodi canfyddiadau ymchwil Llywodraeth Cymru
“Wales Anti-Social behaviour: Policy and Practice Review” fel sail ar gyfer
gweithredu pellach; ac
3. Yn galw ar sefydliadau perthnasol yn y sector
cyhoeddus a’r trydydd sector i weithio gyda’i gilydd i daclo ymddygiad
gwrthgymdeithasol sy’n ymwneud â thai.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn credu bod polisïau a gweithdrefnau sy’n
ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fwyaf effeithiol pan maent yn
canolbwyntio ar ymyriadau cynnar, atal a chydweithio rhwng asiantaethau.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ym mhwynt 2, cynnwys ‘ac argymhellion allweddol’ ar ôl ‘canfyddiadau’
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyrff
perthnasol yn y sector cyhoeddus ac yn y trydydd sector yn cydweithio'n fwy
effeithiol i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â
thai.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y gorgyffwrdd helaeth rhwng meysydd fel tai, ymddygiad
gwrthgymdeithasol, diogelwch cymunedol a phlismona, ac yn credu y byddai modd
mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig â thai mewn
ffordd fwy effeithiol pe bai pob un o'r meysydd hyn yn cael eu datganoli.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
11 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5475 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr effaith negyddol y mae
ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n ymwneud â thai yn gallu ei chael ar bobl ac ar
eu hiechyd a’u lles;
2. Yn credu bod polisïau a gweithdrefnau sy’n
ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fwyaf effeithiol pan maent yn
canolbwyntio ar ymyriadau cynnar, atal a chydweithio rhwng asiantaethau;
3. Yn nodi canfyddiadau ac argymhellion allweddol
ymchwil Llywodraeth Cymru “Wales Anti-Social behaviour: Policy and Practice
Review” fel sail ar gyfer gweithredu pellach;
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod
cyrff perthnasol yn y sector cyhoeddus ac yn y trydydd sector yn cydweithio'n
fwy effeithiol i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n
gysylltiedig â thai; a
5. Yn cydnabod y gorgyffwrdd helaeth rhwng
meysydd fel tai, ymddygiad gwrthgymdeithasol, diogelwch cymunedol a phlismona,
ac yn credu y byddai modd mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n
gysylltiedig â thai mewn ffordd fwy effeithiol pe bai pob un o'r meysydd hyn yn
cael eu datganoli.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
11 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 26/03/2014
Dyddiad y penderfyniad: 25/03/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/03/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad