Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.04
NDM5468 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn mynegi pryder y dyfarnwyd graddau annisgwyl
o isel i rai myfyrwyr a safodd fodiwlau Saesneg TGAU ym mis Ionawr 2014;
2. Yn croesawu adolygiad cyflym Llywodraeth Cymru
o'r sefyllfa;
3. Yn nodi pwysigrwydd ystyried yr holl
dystiolaeth sydd ar gael i'r adolygiad; a
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i rannu natur y
broses adolygu a'r dystiolaeth a gafwyd fel rhan o'r adolygiad mewn modd agored
a didwyll.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 20/03/2014
Dyddiad y penderfyniad: 19/03/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/03/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad