Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.01
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5448 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau bysiau i
bobl Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau
sefydlogrwydd ar gyfer y diwydiant bysiau a theithwyr.
3. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i
ddiogelu gwasanaethau bysiau yng Nghymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
36 |
54 |
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo
yn unol â hynny:
Yn croesawu argymhelliad y Comisiwn ar Ddatganoli
yng Nghymru i ddatganoli pŵer rheoleiddio dros fysiau i Lywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
42 |
13 |
0 |
55 |
Derbyniwyd
gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo
yn unol â hynny:
Yn cydnabod bod angen Comisiynydd Traffig penodol
i Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
42 |
13 |
0 |
55 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Ym mhwynt 3, ar ôl ‘Lywodraeth Cymru’ cynnwys ‘i
gydweithio â’r diwydiant bysiau a phartneriaid eraill’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM5448 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau bysiau i bobl
Cymru.
2. Yn cydnabod bod angen Comisiynydd Traffig
penodol i Gymru.
3. Yn croesawu argymhelliad y Comisiwn ar
Ddatganoli yng Nghymru i ddatganoli pŵer rheoleiddio dros fysiau i
Lywodraeth Cymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio â’r
diwydiant bysiau a phartneriaid eraill i sicrhau sefydlogrwydd ar gyfer y
diwydiant bysiau a theithwyr.
5. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i
ddiogelu gwasanaethau bysiau yng Nghymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
42 |
13 |
0 |
55 |
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 12/03/2014
Dyddiad y penderfyniad: 12/03/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 12/03/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad