Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
NDM4770 Nick
Ramsay (Mynwy)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cyfnod canol (8-13 oed) er mwyn
integreiddio’r system ysgol
ac i bontio’r gagendor rhwng y Cyfnod Sylfaen a’r Llwybrau
Dysgu 14-19.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
38 |
51 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Dileu’r cyfan a
rhoi yn ei le:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddatblygu a chyhoeddi strategaeth ar gyfer plant 8-13 oed
gyda’r nod o sicrhau bod y cyfraddau presennol ar gyfer anllythrennedd ac
anrhifogrwydd ymhlith plant sy’n gadael ysgol gynradd yn cael eu haneru erbyn
2016.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
40 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y
dylai’r cyfnod canol hwn wella’r trefniadau pontio rhwng ysgolion cynradd ac
uwchradd drwy ffurfioli partneriaethau rhwng yr ysgolion hyn, cyflogi mwy o
athrawon pontio, a sicrhau bod y blynyddoedd cynnar mewn ysgolion uwchradd yn
cynnig gwell cydbwysedd rhwng addysgu academaidd a bugeiliol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
3 |
11 |
37 |
51 |
Gwrthodwyd
gwelliant 2.
Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei
ddiwgio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i’r cynnig, nid yw’r cynnig wedi ei
gymeradwyo.
Dyddiad cyhoeddi: 29/06/2011
Dyddiad y penderfyniad: 29/06/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 29/06/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad