Manylion y penderfyniad
Debate: The future of our past - new directions for the historic environment in Wales
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd
yr eitem am 16.34
NDM5434 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
Yn nodi cynnydd Llywodraeth Cymru
hyd yma o safbwynt ei Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol ynghyd â'r camau nesaf
yn dilyn yr ymgynghoriad ar "dyfodol ein gorffennol".
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig:
Yn croesawu penderfyniad
Llywodraeth Cymru i beidio â bwrw ymlaen ag uno Comisiwn Brenhinol Henebion
Cymru a CADW.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi
tystiolaeth yn rheolaidd o effaith polisïau treftadaeth ar leihau tlodi yng
Nghymru.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r newyddion
diweddaraf am y gwaith a wnaed i greu Cynghrair Treftadaeth i Gymru neu
ymddiriedolaeth cadwraeth treftadaeth genedlaethol.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gofyniad statudol bod awdurdodau
lleol yn llunio rhestr leol o adeiladau sy’n cael eu hystyried yn asedau
hanesyddol yn eu hardaloedd drwy unrhyw Fil Treftadaeth yn y dyfodol, ac i
ddarparu canllawiau a pholisïau enghreifftiol ar gyfer eu cynlluniau datblygu
lleol i ategu hyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
26 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu categori ar gyfer adeiladau rhestredig
sy’n dangos agweddau pwysig ar hanes cymdeithasol, economaidd, diwylliannol neu
filwrol lleol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
26 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5434 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
Yn nodi cynnydd Llywodraeth Cymru
hyd yma o safbwynt ei Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol ynghyd â'r camau nesaf
yn dilyn yr ymgynghoriad ar "dyfodol ein gorffennol".
Yn croesawu penderfyniad
Llywodraeth Cymru i beidio â bwrw ymlaen ag uno Comisiwn Brenhinol Henebion
Cymru a CADW.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi
tystiolaeth yn rheolaidd o effaith polisïau treftadaeth ar leihau tlodi yng
Nghymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r newyddion
diweddaraf am y gwaith a wnaed i greu Cynghrair Treftadaeth i Gymru neu
ymddiriedolaeth cadwraeth treftadaeth genedlaethol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 19/02/2014
Dyddiad y penderfyniad: 18/02/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/02/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad