Manylion y penderfyniad
Debate on the Environment and Sustainability Committee's Report on the Inquiry into energy policy and planning in Wales – Follow up report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Cynhaliodd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru. Dyma
gylch gorchwyl yr adolygiad.
- Bydd
y Pwyllgor yn ystyried sut mae’r trefniadau datganoli presennol ar gyfer
polisi ynni a chynllunio yn effeithio ar gyflawni’r ‘cymysgedd ynni’ y mae
Llywodraeth Cymru am ei weld, fel yr amlinellir yn Chwyldro
Carbon Isel – datganiad polisi ynni (2010) a’r UK
Renewable Energy Roadmap (2011).
- beth yw’r goblygiadau i Gymru os bydd y
cyfrifoldeb dros ganiatáu prosiectau seilwaith mawr ar y tir mawr ac ar y
môr yn parhau i fod yn fater sy’n cael ei gadw yn ôl gan Lywodraeth y
DU?
- sut mae hyn effeithio ar gyflawni dyheadau
Llywodraeth Cymru ar gyfer gwahanol fathau o ynni adnewyddadwy, fel y’u
nodir yn y Datganiad Polisi Ynni?
- sut mae hyn yn effeithio ar gyflawni targed
Llywodraeth Cymru o gael gostyngiad o 3 y cant mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr bob blwyddyn o 2011 ymlaen?
- beth fydd yr effaith os na fydd penderfyniadau
caniatáu ar gyfer prosiectau seilwaith mawr a datblygiadau cysylltiedig
yn cael eu gwneud yn unol â pholisi cynllunio Cymru?
Bydd y Pwyllgor hefyd yn ystyried dwy ddeiseb am ganllawiau cynllunio
Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag ynni gwynt ar y tir mawr a’r effaith ar
gymunedau lleol a seilwaith.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 15.05
NDM5415
Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad dilynol y Pwyllgor Amgylchedd a
Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 30/01/2014
Dyddiad y penderfyniad: 29/01/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 29/01/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad