Manylion y penderfyniad
Debate: The Report of the Williams Commission on Public Service Governance and Delivery
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.22
NDM5412
Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi
Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu
ar ddechrau’r cynnig ac ail-rifo yn unol â hynny:
1. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i nodi amserlen ar gyfer ymateb i’r argymhellion yn
Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, a
2. Os
bwriedir gweithredu’r argymhellion yn Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a
Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiffinio’r
canlynol:
a)
swyddogaeth a strwythur unrhyw ardaloedd awdurdodau lleol newydd;
b)
system dryloyw ar gyfer monitro a gwerthuso’r ddarpariaeth o wasanaethau yn yr
ardaloedd hynny;
c) y
nifer o etholwyr a ragwelir ar gyfer pob cynghorydd yn yr ardaloedd hynny.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
croesawu’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn adroddiad y Comisiwn am yr angen i
leihau cymhlethdod mewn gwasanaethau cyhoeddus ac yn cadarnhau y dylai unrhyw
newidiadau o ran darparu gwasanaeth cyhoeddus wella canlyniadau ar gyfer ein
dinasyddion.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi
argymhelliad yr adroddiad i gychwyn y broses o integreiddio iechyd a gofal
cymdeithasol, ac yn gresynu na roddwyd ystyriaeth lawn i uno'r gwasanaethau
hyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
1 |
26 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
credu, os cytunir ar ostyngiad yn nifer yr awdurdodau lleol, yna y dylai
gostyngiad ddigwydd hefyd yng nghyfanswm nifer y cynghorwyr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
11 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi
nad oedd diwygio’r drefn bleidleisio ar gyfer etholiadau cynghorau yn rhan o
gylch gorchwyl Comisiwn Williams ond yn credu mai gweithredu Pleidlais Sengl
Drosglwyddadwy fyddai'r dull mwyaf priodol o ethol nifer llai o gynghorwyr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
37 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad oedd diwygio’r drefn bleidleisio yn rhan o gylch
gorchwyl Comisiwn Williams ac yn credu y dylai unrhyw ad-drefnu ar lywodraeth
leol gynyddu atebolrwydd drwy gyflwyno Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer
etholiadau cynghorau, fel yr argymhellwyd gan Gomisiwn Sunderland, ac fel sy’n
digwydd ar hyn o bryd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
36 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5412
Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi amserlen ar gyfer
ymateb i’r argymhellion yn Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu
Gwasanaethau Cyhoeddus, a
2. Os bwriedir gweithredu’r argymhellion yn Adroddiad y
Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddiffinio’r canlynol:
a) swyddogaeth a strwythur unrhyw ardaloedd awdurdodau
lleol newydd;
b) system dryloyw ar gyfer monitro a gwerthuso’r
ddarpariaeth o wasanaethau yn yr ardaloedd hynny;
c) y nifer o etholwyr a ragwelir ar gyfer pob
cynghorydd yn yr ardaloedd hynny.
3. Yn nodi Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a
Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus.
4. Yn croesawu’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn adroddiad
y Comisiwn am yr angen i leihau cymhlethdod mewn gwasanaethau cyhoeddus ac yn
cadarnhau y dylai unrhyw newidiadau o ran darparu gwasanaeth cyhoeddus wella
canlyniadau ar gyfer ein dinasyddion.
5. Yn credu, os cytunir ar ostyngiad yn nifer yr
awdurdodau lleol, yna y dylai gostyngiad ddigwydd hefyd yng nghyfanswm nifer y
cynghorwyr.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 29/01/2014
Dyddiad y penderfyniad: 28/01/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/01/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad