Manylion y penderfyniad
Debate: The Annual Report on Equality 2012-13
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.46
NDM5394
Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
nodi’r cynnydd a gyflawnwyd o safbwynt hybu cydraddoldeb a chynhwysiant yn
2012-13, fel y nodir yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Gydraddoldeb,
a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 13 Rhagfyr 2013.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i hybu’r gwaith o ddatblygu polisïau yn y gweithle yng
nghyswllt cam-drin domestig ar gyfer gweithwyr yn y sector cyhoeddus.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y
cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
credu y dylai fod gan bobl sydd wedi dioddef troseddau rhyw yn eu herbyn yr
hawl i wybod pryd y mae'r sawl a ymosododd arnynt yn cael ei ryddhau o
gaethiwed, gan gynnwys amodau’r rhyddhau hwnnw, ac y dylai'r hawl hwn gael ei
gynnwys yn y Bil arfaethedig, y Bil Rhoi Terfyn ar Drais yn Erbyn Menywod a
Cham-drin Domestig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod
yr angen i sicrhau bod gwasanaethau cymorth ar gyfer dioddefwyr trais rhywiol o
safon gyson ac ar gael ledled Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cyflwyno Cronfa
Mynediad i Swyddi Etholedig i Bobl Anabl fel yr un sydd wedi'i chyflwyno gan
Lywodraeth y DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
44 |
10 |
1 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5394
Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.Yn nodi’r
cynnydd a gyflawnwyd o safbwynt hybu cydraddoldeb a chynhwysiant yn 2012-13,
fel y nodir yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Gydraddoldeb, a osodwyd
gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 13 Rhagfyr 2013.
2.Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i hybu’r gwaith o ddatblygu polisïau yn y gweithle yng
nghyswllt cam-drin domestig ar gyfer gweithwyr yn y sector cyhoeddus.
3.Yn
cydnabod yr angen i sicrhau bod gwasanaethau cymorth ar gyfer dioddefwyr trais
rhywiol o safon gyson ac ar gael ledled Cymru.
4.Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cyflwyno Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig
i Bobl Anabl fel yr un sydd wedi'i chyflwyno gan Lywodraeth y DU.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 15/01/2014
Dyddiad y penderfyniad: 14/01/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/01/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad