Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd
yr eitem am 15.10
NDM5397
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi llwyddiannau rygbi rhyngwladol Cymru yn ddiweddar
a phwysigrwydd rygbi i ddiwylliant ac i economi Cymru.
2. Yn nodi’r trafodaethau sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd
rhwng Undeb Rygbi Cymru a Rygbi Rhanbarthol Cymru ynghylch dyfodol rygbi Cymru
ac yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynnal strwythur cryf ar lawr gwlad ac
yn rhanbarthol er mwyn i’r gamp allu datblygu a ffynnu ledled Cymru.
3. Yn credu er mwyn cael llwyfan cryf ar gyfer rygbi Cymru ei
bod yn rhaid i gyrff a chlybiau cenedlaethol a rhanbarthol gydweithio’n
adeiladol er mwyn creu sylfaen ariannol gref er lles y gamp yn y dyfodol ac yn
gobeithio y bydd y trafodaethau cyfredol yn arwain at benderfyniad yn gyflym.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 16/01/2014
Dyddiad y penderfyniad: 15/01/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/01/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad