Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.16
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5385 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i gynnal
dadl ar y celfyddydau yn ystod y Cynulliad hwn.
2. Yn nodi:
a) pwysigrwydd cynhenid y celfyddydau a diwylliant i
hunaniaeth Cymru a lles personol ei dinasyddion;
b) adroddiad Cyngor Celfyddydau Cymru “Adroddiad
annibynnol ar gyfer Llywodraeth Cymru ar y Celfyddydau mewn Addysg yn Ysgolion
Cymru” ar rôl y celfyddydau o ran datblygu llythrennedd a rhifedd; a
c) bod ymchwil VisitBritain yn nodi bod mwy o ymwelwyr
tramor yn mynd i'r theatr, sioeau cerdd, opera neu fale, nag i ddigwyddiad
chwaraeon byw, pan fyddant yn ymweld â Phrydain.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i esbonio sut y caiff
cyllid ar gyfer y celfyddydau ei ddiogelu o fewn y cyllidebau addysg a
llywodraeth leol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
41 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys
is-bwynt 2b) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
pwysigrwydd
y Celfyddydau wrth hybu defnydd o’r Gymraeg;
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys
is-bwynt 2c) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
bod
adroddiad Cyngor Celfyddydau Cymru yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru
archwilio dewisiadau cyllido gyda’r nod o sicrhau bod yna ddarpariaeth gyfartal
ar gael i bobl ifanc ym mhob math o gelf, a bod pobl ifanc eithriadol o
dalentog yn gallu dilyn a meithrin eu talent;
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag amgueddfeydd, orielau a chasgliadau
eraill o gelf a threftadaeth yng Nghymru er mwyn sicrhau y gall cyfleusterau
eraill yng Nghymru gael benthyg eitemau nad ydynt yn cael eu harddangos.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyfeiriad strategol i’r Cyngor Celfyddydau
fuddsoddi mewn gwyliau llai ac artistiaid, cerddorion ac ysgrifenwyr addawol, a
sicrhau bod digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol yn symud tuag at gynlluniau
busnes cynaliadwy.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
41 |
12 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5385 William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i gynnal dadl ar y celfyddydau yn ystod y
Cynulliad hwn.
2. Yn
nodi:
a)
pwysigrwydd cynhenid y celfyddydau a diwylliant i hunaniaeth Cymru a lles
personol ei dinasyddion;
b) pwysigrwydd
y Celfyddydau wrth hybu defnydd o’r Gymraeg;
c)
adroddiad Cyngor Celfyddydau Cymru “Adroddiad annibynnol ar gyfer Llywodraeth
Cymru ar y Celfyddydau mewn Addysg yn Ysgolion Cymru” ar rôl y celfyddydau o
ran datblygu llythrennedd a rhifedd; a
d)
bod ymchwil VisitBritain yn nodi bod mwy o ymwelwyr tramor yn mynd i'r theatr,
sioeau cerdd, opera neu fale, nag i ddigwyddiad chwaraeon byw, pan fyddant yn
ymweld â Phrydain.
3. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i esbonio sut y caiff cyllid ar gyfer y celfyddydau ei
ddiogelu o fewn y cyllidebau addysg a llywodraeth leol.
4. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag amgueddfeydd, orielau a chasgliadau
eraill o gelf a threftadaeth yng Nghymru er mwyn sicrhau y gall cyfleusterau
eraill yng Nghymru gael benthyg eitemau nad ydynt yn cael eu harddangos.
5. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyfeiriad strategol i’r Cyngor Celfyddydau
fuddsoddi mewn gwyliau llai ac artistiaid, cerddorion ac ysgrifenwyr addawol, a
sicrhau bod digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol yn symud tuag at gynlluniau
busnes cynaliadwy.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 12/12/2013
Dyddiad y penderfyniad: 11/12/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/12/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad