Manylion y penderfyniad
Debate on the Sustainable Development Annual Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.56
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
NDM5381
Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
nodi’r cynnydd a wnaed o ran hyrwyddo datblygu cynaliadwy yn 2012-13, fel y’i
nodir yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Datblygu
Cynaliadwy, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 3 Rhagfyr 2013.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys
pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi
gyda phryder y sylwadau a wnaed yn adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru gan y
Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ynghylch dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o
ddatblygu cynaliadwy, a bod “gwendidau systemig yn y strwythurau llywodraethu
presennol ar gyfer datblygu cynaliadwy” o hyd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu
“’r cynnydd a wnaed o ran hyrwyddo datblygu cynaliadwy yn 2012-13, fel y’i
nodir yn”.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol
Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio
yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
cydnabod y rôl ganolog y mae addysg yn ei chwarae wrth ddatblygu dyfodol
cynaliadwy i Gymru ac yn croesawu adolygiad thematig Estyn o Addysg ar gyfer
Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang er mwyn gwella ei ffocws a chanfod
gwelliannau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu
at y gostyngiad yn lefelau caffael bwyd lleol y sector cyhoeddus, nad oedd y
strategaeth ‘Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru’ bresennol yn addas i'r diben ac yn
galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun labelu cynhwysfawr ar gyfer bwyd a
diod o Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
17 |
11 |
28 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o flaenoriaeth i gasglu tystiolaeth gan y rheini
sydd â phrofiad ymarferol wrth ffurfio polisïau datblygu cynaliadwy a’u cynnwys
mewn partneriaethau cyflawni.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant
6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i roi adroddiad ar sut y mae polisïau yn y Rhaglen
Lywodraethu yn gysylltiedig â’r Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy ar gyfer
Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant
7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
cydnabod y cyfraniad a wnaed gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy yn ei
sylwadau ar yr adroddiad.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 7.
Gwelliant
8 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
cydnabod pryderon parhaus y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ynghylch elfennau o
strwythur a chynnwys yr adroddiad.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 8.
Gwelliant
9. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw
am Fil Cenedlaethau’r Dyfodol cadarn ac effeithiol i roi sylw priodol i'r pwyntiau
a godwyd gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ac i'r Gweinidog ymgysylltu â
phob plaid a'r gymdeithas ddinesig ehangach wrth baratoi ar gyfer y Bil hwn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 9.
Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5381 Lesley Griffiths
(Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
1. Yn nodi gyda phryder y sylwadau
a wnaed yn adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru gan y Comisiynydd Dyfodol
Cynaliadwy ynghylch dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o ddatblygu cynaliadwy, a
bod “gwendidau systemig yn y strwythurau llywodraethu presennol ar gyfer
datblygu cynaliadwy” o hyd.
2. Yn nodi’r cynnydd a wnaed o ran
hyrwyddo datblygu cynaliadwy yn 2012-13, fel y’i nodir yn Adroddiad Blynyddol
Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy, a osodwyd gerbron Cynulliad
Cenedlaethol Cymru ar 3 Rhagfyr 2013.
3. Yn cydnabod y rôl ganolog y mae addysg yn ei chwarae wrth
ddatblygu dyfodol cynaliadwy i Gymru ac yn croesawu adolygiad thematig Estyn o
Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang er mwyn gwella ei
ffocws a chanfod gwelliannau.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
roi mwy o flaenoriaeth i gasglu tystiolaeth gan y rheini sydd â phrofiad
ymarferol wrth ffurfio polisïau datblygu cynaliadwy a’u cynnwys mewn
partneriaethau cyflawni.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
roi adroddiad ar sut y mae polisïau yn y Rhaglen Lywodraethu yn gysylltiedig
â’r Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy ar gyfer Cymru.
6. Yn cydnabod y cyfraniad a wnaed
gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy yn ei sylwadau ar yr adroddiad.
7. Yn cydnabod pryderon parhaus y
Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ynghylch elfennau o strwythur a chynnwys yr
adroddiad.
8. Yn galw am Fil Cenedlaethau’r
Dyfodol cadarn ac effeithiol i roi sylw priodol i'r pwyntiau a godwyd gan y
Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ac i'r Gweinidog ymgysylltu â phob plaid a'r
gymdeithas ddinesig ehangach wrth baratoi ar gyfer y Bil hwn.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
44 |
12 |
0 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 11/12/2013
Dyddiad y penderfyniad: 10/12/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 10/12/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad