Manylion y penderfyniad

Stage 3 Standing Order 26.44 debate on the Further and Higher Education (Governance and Information) (Wales) Bill

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Bil Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd gan Leighton Andrews AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, ar 29 Ebrill 2013. Yn dilyn newid ym mhortffolios y Gweinidogion ym mis Mehefin 2013, fe wnaeth y Prif Weinidog awdurdodi Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, fel yr Aelod newydd sy'n gyfrifol am y Bil, o 26 Mehefin 2013.

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Bil at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

 

Gwybodaeth am y Bil

 

Diben y Bil yw rhoi rhagor o annibyniaeth i Sefydliadau Addysg Bellach, a gwella'u gallu i wneud penderfyniadau, yn ogystal â chaniatáu i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi rannu gyda Gweinidogion Cymru ddata sy’n berthnasol i grantiau a benthyciadau myfyrwyr.

 

Cyfnod presennol


Daeth Deddf Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014 (gwe-fan allanol) yn gyfraith yng Nghymru (gwefan allanol) ar 27 Ionawr 2014.


Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru


Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.             

 Cyfnod

Dogfennau

Cyflwyno'r Bil – 29 Ebrill 2013


Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru), fel y’i cyflwynwyd (PDF, 100KB)

 

Memorandwm Esboniadol (PDF, 234KB)

 

Datganiad y Llywydd: 29 Ebrill 2013 (PDF, 116KB)

 

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil: 29 Ebrill 2013 (PDF, 61KB)

 

Datganiad yn y Cyfarfod Llawn: Cyflwyno Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru): 30 Ebrill 2013

 

Crynodeb y Gwasanaeth Ymchwil y Bil (PDF, 581KB)

 

Geirfa’r Gyfraith –Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) (PDF, 131KB)

 


Cyfnod 1 -
Pwyllgor yn ystyried yr egwyddorion cyffredinol

 

Llythyr ymgynhori – Mae’r Pwyllgor wedi gwneud galwad am dystiolaeth, a daeth y cyfnod hwn i ben ar 31 Mai 2013.

 

Ymatebion i’r ymgynghoriad

 

Gohebiaeth ynglyn a’r Bil


Ystyriodd y Pwyllgor y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

1 Mai 2013 (preifat)

15 Mai 2013

23 Mai 2013

5 Mehefin 2013

13 Mehefin 2013

19 Mehefin 2013

3 Gorffennaf 2013 (preifat)

11 Gorffennaf 2013 (preifat)

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (PDF, 835KB)

 

Adroddiad Cyfnod 1 Pwyllgor (PDF, 811KB)

 

 


Cyfnod 1 -
Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol


Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Medi 2013.

Penderfyniad Ariannol

 

Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Medi 2013.


Cyfnod 2 -
Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau


Ystyriwyd gwelliannau Cyfnod 2 yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 24 Hydref 2013.

Cofnodion Cryno: 24 Hydref 2013

Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen.) (PDF, 100KB)

Crynodeb y Gwasanaeth Ymchwil o newidiadau i’r Bil ar ôl Cyfnod 2 (PDF, 105KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 10 Hydref 2013 (PDF, 57KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 15 Hydref 2013 (PDF, 58KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 18 Hydref 2013 (PDF, 70KB)

Rhestr O Welliannau Wedi’u Didoli: 24 Hydref 2013 (PDF, 87KB)

Grwpio Gwelliannau: 24 Hydref 2013 (PDF, 62KB)


Cyfnod 3 -
y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau


Cafodd y gwelliannau eu hystyried a’u gwaredu yn ystod trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Rhagfyr 2013.

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 12 Tachwedd 2013 (PDF, 60KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 13 Tachwedd 2013 (PDF, 53KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 19 Tachwedd 2013 (PDF, 62KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 21 Tachwedd 2013 (PDF, 74KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 25 Tachwedd 2013 (PDF, 52KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 26 Tachwedd 2013 (PDF, 55KB)

Rhestr O Welliannau Wedi’u Didoli: 26 Tachwedd 2013 (PDF, 90KB)

Grwpio Gwelliannau: 26 Tachwedd 2013 (PDF, 68KB)


Cyfnod 4 -
Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn


Cytunodd y Cynulliad ar y Bil ar 3 Rhagfyr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Bil fel y’i pasiwyd (PDF, 99KB)

 

Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru), fel y'i pasiwyd (Crown XML)


Cydsyniad Brenhinol

 
Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol (PDF, 40KB) ar 27 Ionawr 2014.
 

 

Gwybodaeth gyswllt

 

Clerc: Marc Wyn Jones

Ffôn: 029 2089 8505

Ail Glerc: Gareth Rogers

 

Cyfeiriad Postio:

 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1NA

 

E-Bost: PwyllgorPPI@cymru.gov.uk

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.41

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

 

Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:

 

1. Adolygu gweithrediad y Ddeddf

4, 1

 

2. Trefniadau trosiannol

6, 7

 

3. Cynrychiolaeth ar gyrff llywodraethu

5, 5A, 3

Gwelliant 5 yw’r prif welliant yn y grŵp

Bydd y gwelliannau hyn yn cael eu gwaredu yn y drefn: 5A, 5, 3

 

4. Ymgynghoriad gan y corff

8

 

5. Colli swyddi

2

 

Cynhaliwyd y bleidlais yn y drefn a nodir yn y Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli.

 

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

44

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5A:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

1

28

56

Gwrthodwyd gwelliant 5A.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

15

13

55

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gan fod gwelliant 5 wedi’i wrthod, methodd gwelliant 3.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Tynnwyd gwelliant 2 yn ôl.

Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben.

Dyddiad cyhoeddi: 04/12/2013

Dyddiad y penderfyniad: 03/12/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/12/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad