Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.54
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5380 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod:
a) pwysigrwydd y BBC ym mywyd Cymru fel rhan o’r
cyfryngau amrywiol;
b) yr angen i adnewyddu'r siarter sy'n adlewyrchu'r
setliad datganoli presennol a'r setliad datganoli sy'n datblygu; a
c) y cyfraniad arloesol y mae'r BBC a darlledwyr cyhoeddus
eraill yn ei wneud i ddiwylliant Cymru, y Gymraeg a'r economi.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
15 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 05/12/2013
Dyddiad y penderfyniad: 04/12/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/12/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad