Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 15.09
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5370 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru
1. Yn nodi ei bod yn adeg o newid
o ran cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, sy'n ei gwneud yn ofynnol diwygio
systemau.
2. Yn cydnabod:
a) y potensial i gydgynhyrchu
wella cyflenwad gwasanaethau cyhoeddus yn sylweddol.
b) ymrwymiad presennol
Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan asedau sy'n eiddo cyhoeddus y potensial i
aros mewn perchnogaeth gymunedol yng Nghymru.
3. Yn gresynu:
a) nad oes digon yn cael ei wneud
i sicrhau bod cymunedau'n ymwybodol o gynlluniau megis Trosglwyddo Asedau
Cymunedol neu'r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol.
b) bod Cymru yn methu â rhannu
llwyddiant yr Agenda Anghenion Cymunedol mewn rhannau eraill o'r DU.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) hyrwyddo cydgynhyrchu fel
ffordd hyfyw o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yn dilyn cyhoeddi canfyddiadau'r
Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus.
b) archwilio dichonoldeb
mabwysiadu agweddau pellach ar y Ddeddf Lleoliaeth yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
42 |
55 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt
3 a rhoi yn ei le:
3.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a)
sicrhau mwy
o ymwybyddiaeth o gynlluniau
megis Trosglwyddo Asedau Cymunedol a’r Rhaglen Cyfleusterau
a Gweithgareddau Cymunedol.
b)
datblygu polisi
asedau cymunedol cynhwysfawr sydd wedi’i deilwra ar gyfer anghenion
Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
41 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt
4b) a rhoi yn ei le:
sicrhau bod yr
agendâu lleoliaeth a throsglwyddo asedau cymunedol yn ddiamau
yn grymuso cymunedau ac nad ydynt yn cael
eu defnyddio fel ffordd o breifateiddio
gwasanaethau cyhoeddus.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
41 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio,
ac wedi gwrthod y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd
y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 28/11/2013
Dyddiad y penderfyniad: 27/11/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 27/11/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad