Manylion y penderfyniad
Debate: The benefits to Wales of the UK's continued membership of the European Union
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am
18.16
Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5367 Lesley Griffiths
(Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod
y manteision i Gymru pe bai’r Deyrnas
Unedig yn parhau’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt
1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod
bod angen ailnegodi ein perthynas bresennol
â’r UE fel y gall Cymru a'r DU fanteisio
ar Undeb Ewropeaidd sy’n canolbwyntio'n fwy ar faterion economaidd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
43 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhoi pwynt
newydd ar ddechrau’r cynnig:
Yn nodi
bod 160,000 o swyddi Cymru yn dibynnu ar
y DU yn aros yn aelod o’r
UE; bod Cymru’n elwa o £144
miliwn y flwyddyn o fod yn aelod
o'r UE; a bod dros 10,000 o
gwmnïau yng Nghymru yn masnachu
gyda gwledydd eraill yn yr
UE bob blwyddyn, sy'n dangos pwysigrwydd cael mynediad i'r
farchnad sengl a threfniadau masnach rydd yr UE gyda
thrydydd partïon ar gyfer swyddi
a'r economi yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
1 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhoi pwynt
newydd ar ddechrau’r cynnig:
Yn croesawu
rôl yr UE yn diogelu ein
hamgylchedd fel arweinydd byd wrth
fynd i’r afael â newid yn
yr hinsawdd a llygredd trawsffiniol, a phwysigrwydd y cydymrwymiadau allweddol yn nhargedau
20-20-20 i wella effeithlonrwydd
ynni, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chynyddu’r
gyfran o’r ynni a ddefnyddir yn yr UE sy’n
cael ei chynhyrchu
o adnoddau adnewyddadwy.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
2 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhoi pwynt
newydd ar ddechrau’r cynnig:
Yn croesawu
cydweithrediad Cymru ag Europol ac Eurojust, a'i gallu i ddefnyddio'r
Warant Arestio Ewropeaidd fel arf, i ddiogelu dinasyddion Cymru rhag troseddau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
3 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar
ddiwedd y cynnig:
sy’n cynnwys
gwneud Cymru yn wlad fwy
llewyrchus, mwy cynaliadwy a mwy diogel.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
1 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Elin
Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu,
os bydd refferendwm
yn cael ei
gynnal ynghylch a ddylai’r DU aros yn aelod o’r
Undeb Ewropeaidd, y dylai canlyniad Cymru gyfan gael
ei gofnodi ar wahân.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
45 |
0 |
7 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5367 Lesley Griffiths
(Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu
cydweithrediad Cymru ag Europol ac Eurojust, a'i gallu i ddefnyddio'r
Warant Arestio Ewropeaidd fel arf, i ddiogelu dinasyddion Cymru rhag troseddau.
Yn croesawu
rôl yr UE yn diogelu ein
hamgylchedd fel arweinydd byd wrth
fynd i’r afael â newid yn
yr hinsawdd a llygredd trawsffiniol, a phwysigrwydd y cydymrwymiadau allweddol yn nhargedau
20-20-20 i wella effeithlonrwydd
ynni, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
a chynyddu’r gyfran o’r ynni a ddefnyddir
yn yr UE sy’n cael ei
chynhyrchu o adnoddau adnewyddadwy.
Yn nodi
bod 160,000 o swyddi Cymru yn dibynnu ar
y DU yn aros yn aelod o’r
UE; bod Cymru’n elwa o £144
miliwn y flwyddyn o fod yn aelod
o'r UE; a bod dros 10,000 o
gwmnïau yng Nghymru yn masnachu
gyda gwledydd eraill yn yr
UE bob blwyddyn, sy'n dangos pwysigrwydd cael mynediad i'r
farchnad sengl a threfniadau masnach rydd yr UE gyda
thrydydd partïon ar gyfer swyddi
a'r economi yng Nghymru.
Yn cydnabod
y manteision i Gymru pe bai’r Deyrnas
Unedig yn parhau’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd
sy’n cynnwys gwneud Cymru yn
wlad fwy llewyrchus, mwy cynaliadwy a mwy diogel.
Yn credu,
os bydd refferendwm
yn cael ei
gynnal ynghylch a ddylai’r DU aros yn aelod o’r
Undeb Ewropeaidd, y dylai canlyniad Cymru gyfan gael
ei gofnodi ar wahân.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
44 |
5 |
3 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 27/11/2013
Dyddiad y penderfyniad: 26/11/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad