Manylion y penderfyniad

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.07

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5363 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi polisi Ceidwadwyr CymreigGweledigaeth ar gyfer Tai Cymru’;

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r farchnad gyfan i sicrhau y ceir ateb i'r argyfwng cyflenwad tai.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

38

48

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu wrth y degawdau o fethiannau gan lywodraethau Llafur a Cheidwadol sydd wedi arwain at ein hargyfwng tai ac mae hynny wedi gwthio rhenti yn uwch ac yn uwch, wedi gadael miloedd o bobl heb obaith o gael eu troed ar yr ysgol eiddo, ac wedi golygu bod 1.5 miliwn yn llai o gartrefi cymdeithasol ar gael i’w rhentu.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

4

0

44

48

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi nad yw polisi’r Ceidwadwyr CymreigGweledigaeth ar gyfer Tai Cymruyn cydnabod mai’r broblem tai mwyaf brys yw’r effaith enbyd y mae’r Dreth Ystafell Wely yn ei chael ar nifer o denantiaid tai cymdeithasol, gan effeithio ar allu landlordiaid cymdeithasol i gynyddu’r cyflenwad tai, ac felly’n annog Llywodraeth y DU i ddiddymu’r Dreth Ystafell Wely.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

15

48

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu bod oddeutu 21,551 o gartrefi gwag hirdymor yng Nghymru a bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chreu strategaeth cartrefi gwag ar gyfer Cymru gyfan.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

4

10

34

48

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod pryder adeiladwyr tai bod biwrocratiaeth yn y system gynllunio yn un o’r prif rwystrau i ddatblygu cartrefi newydd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r Bil Diwygio Cynllunio arfaethedig i gael gwared ar y prif rwystrau rhag darparu trefn gynllunio effeithiol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

0

26

48

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu’r camau a gymerir gan Lywodraeth y DU i ysgogi’r gwaith o adeiladu tai newydd drwy fenthyciadau ecwiti a chynllun gwarant morgais, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i bennu dyddiad ar gyfer cyflwyno’r cynllun hirddisgwyliedig Cymorth i Brynu Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

34

48

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi mai dim ond un ar ddeg o gynghorau lleol yng Nghymru sy’n dal i fod â stoc tai cyngor yn eu meddiant ac mae hynny’n llesteirio gweledigaeth Ceidwadwyr Cymreig i adfer cynllunHawl i Brynuyng Nghymru, a bod y pwer i atal yr Hawl i Brynu tai cyngor mewn ardaloedd lle mae llawer o alw yn arf pwysig i helpu i leihau lefelau digartrefedd a phrinder tai cymdeithasol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

10

48

Derbyniwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5363 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi nad yw polisi’r Ceidwadwyr CymreigGweledigaeth ar gyfer Tai Cymruyn cydnabod mai’r broblem tai mwyaf brys yw’r effaith enbyd y mae’r Dreth Ystafell Wely yn ei chael ar nifer o denantiaid tai cymdeithasol, gan effeithio ar allu landlordiaid cymdeithasol i gynyddu’r cyflenwad tai, ac felly’n annog Llywodraeth y DU i ddiddymu’r Dreth Ystafell Wely.

2. Yn nodi mai dim ond un ar ddeg o gynghorau lleol yng Nghymru sy’n dal i fod â stoc tai cyngor yn eu meddiant ac mae hynny’n llesteirio gweledigaeth Ceidwadwyr Cymreig i adfer cynllunHawl i Brynuyng Nghymru, a bod y pwer i atal yr Hawl i Brynu tai cyngor mewn ardaloedd lle mae llawer o alw yn arf pwysig i helpu i leihau lefelau digartrefedd a phrinder tai cymdeithasol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r farchnad gyfan i sicrhau y ceir ateb i'r argyfwng cyflenwad tai.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

36

48

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Dyddiad cyhoeddi: 21/11/2013

Dyddiad y penderfyniad: 20/11/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/11/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad