Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 15.26
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5346
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn credu bod gofal a thriniaeth o ansawdd uchel yn
GIG Cymru yn allweddol i ddileu marwolaethau y gellir eu hosgoi.
2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gomisiynu
adolygiad annibynnol o ysbytai Cymru a chanddynt gyfraddau marwolaethau uwch na'r cyfartaledd
i benderfynu a yw methiannau o ran ansawdd gofal a thriniaeth yn ffactor.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
40 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyhoeddi cyfraddau marwolaeth ar gyfer
pob safle ysbyty ar wefan
'Fy Ngwasanaeth Iechyd Lleol'.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerir gan Lywodraeth
Cymru i gefnogi Byrddau Iechyd Lleol i fynd i’r afael
â’r gwaith sydd wedi pentyrru
ym maes
codio clinigol.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerir i sefydlu dull o ymchwilio i ysbytai neu Fyrddau Iechyd
Lleol sy’n mynd dros drothwy
penodol RAMI yn gyson dros gyfnod
o amser.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda gweinyddiaethau
eraill y DU i sicrhau bod
data tebyg ar gael ar farwolaethau.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5346
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn credu bod gofal a thriniaeth o ansawdd uchel yn
GIG Cymru yn allweddol i ddileu marwolaethau y gellir eu hosgoi.
2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gomisiynu
adolygiad annibynnol o ysbytai Cymru a chanddynt gyfraddau marwolaethau uwch na'r cyfartaledd
i benderfynu a yw methiannau o ran ansawdd gofal a thriniaeth yn ffactor.
3.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyhoeddi
cyfraddau marwolaeth ar gyfer pob
safle ysbyty ar wefan 'Fy
Ngwasanaeth Iechyd Lleol'.
4.
Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerir gan Lywodraeth
Cymru i gefnogi Byrddau Iechyd Lleol i fynd i’r afael
â’r gwaith sydd wedi pentyrru
ym maes
codio clinigol.
5.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddarparu’r
wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerir i sefydlu dull o ymchwilio i ysbytai neu Fyrddau
Iechyd Lleol sy’n mynd dros
drothwy penodol RAMI yn gyson dros
gyfnod o amser.
6.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda gweinyddiaethau eraill y DU i sicrhau bod data tebyg ar gael ar farwolaethau.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y
Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig wedi’i
ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 07/11/2013
Dyddiad y penderfyniad: 06/11/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 06/11/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad