Manylion y penderfyniad
Debate: Support for the Armed Forces in Wales
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 18.32
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio
NDM5343 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) gwaith Llywodraeth
Cymru i sicrhau
bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn
cefnogi aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog;
b) y Pecyn Cymorth diweddaraf gan Lywodraeth Cymru i Gymuned y Lluoedd
Arfog yng Nghymru;
c) y gwaith sy’n mynd rhagddo drwy
Grŵp Arbenigol Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth ar Anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog yng
Nghymru.
Mae Pecyn Cymorth diweddaraf Llywodraeth Cymru i Gymuned
y Lluoedd Arfog yng Nghymru ar
gael o’r ddolen ganlynol:
http://wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/safety/armedforces/packagesupport/?skip=1&lang=cy
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Cynnwys is-bwynt a) newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
pwysigrwydd Dydd y Cofio o ran ein hatgoffa am aberth yr unigolion
hynny sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog
a'r rheiny yn y boblogaeth sifil a gollodd eu bywydau neu
a brofodd newid diwrthdro yn eu
bywydau yn sgil gwrthdaro ers 1914;
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys is-bwynt a) newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
bod Canmlwyddiant y Rhyfel
Byd Cyntaf ar y gorwel a bod angen diogelu ein
Cofebion Rhyfel;
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys is-bwynt b) newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
ac yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chyflwyno
Cynllun Cerdyn i Gyn-filwyr, yn
unol â'r addewid a wnaed 2 flynedd yn ôl.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
37 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
anghenion cymhleth ac amrywiol Cymuned y Lluoedd Arfog.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant
4.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y gwaith rhagorol y mae mudiadau ieuenctid
gwirfoddol cenedlaethol a noddir gan y Weinyddiaeth
Amddiffyn yn ei wneud o ran ymgysylltu â phobl ifanc nad ydynt
mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant
ac yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ymgorffori'r gwaith hwn yn
ei fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
10 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant
5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu Cynllun Grantiau'r Cyfamod Cymunedol, gwerth £30 miliwn, y mae Llywodraeth y DU wedi'i lansio ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i hyrwyddo'r cyfleoedd
sydd ar gael
i gymunedau lleol gryfhau’r cyswllt a’r gyd-ddealltwriaeth
rhwng aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog a’r gymuned
ehangach y maent yn byw ynddi.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
43 |
10 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant
6.
Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon
o gapasiti o fewn y GIG i alluogi aelodau
o Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru
sy’n dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma gael
gofal priodol, gan gynnwys mynediad
at arbenigwyr a chymorth brys a seibiant digonol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 7:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant
7.
Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod aelodau
o Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru
yn cael y driniaeth feddygol flaenoriaethol y mae ganddynt hawl iddi
drwy drefnu bod Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru
yn rhoi dull cyson ar waith
ar gyfer adnabod aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog; i sicrhau
bod aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog yn
ymwybodol o'r hyn y mae ganddynt
hawl iddo; ac i fonitro'r gwaith
o ddarparu'r hawl honno.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 8:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
10 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant
8.
Gwelliant 9 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyhoeddi amserlen
ar gyfer datblygu polisi comisiynu cam wrth gam ar gyfer darparu
aelodau prosthetig o’r corff i
Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru
a gwneud gwelliannau i'r gwaith o gynllunio,
trefnu a darparu gwasanaethau prosthetig yn gyffredinol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 9:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
2 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 9.
Gwelliant 10 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Byrddau
Iechyd Lleol yng Nghymru yn
sefydlu perthynas â Chanolfan Adferiad Meddygol y Gwasanaeth Amddiffyn yn Headley Court.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 10:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
43 |
10 |
0 |
53 |
Derbyniwyd
gwelliant 10.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5343 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) bod Canmlwyddiant y Rhyfel
Byd Cyntaf ar y gorwel a bod angen diogelu ein
Cofebion Rhyfel;
b) pwysigrwydd Dydd
y Cofio o ran ein hatgoffa am aberth yr unigolion hynny
sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog a'r
rheiny yn y boblogaeth sifil a gollodd eu bywydau
neu a brofodd newid diwrthdro yn eu bywydau
yn sgil gwrthdaro
ers 1914;
c) gwaith Llywodraeth
Cymru i sicrhau
bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn
cefnogi aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog;
ch) y Pecyn Cymorth diweddaraf gan Lywodraeth Cymru i Gymuned
y Lluoedd Arfog yng Nghymru;
d) y gwaith sy’n mynd rhagddo drwy
Grŵp Arbenigol Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth ar Anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog yng
Nghymru.
dd) anghenion cymhleth ac amrywiol Cymuned y Lluoedd Arfog.
2. Yn cydnabod y gwaith rhagorol y mae mudiadau ieuenctid
gwirfoddol cenedlaethol a noddir gan y Weinyddiaeth
Amddiffyn yn ei wneud o ran ymgysylltu â phobl ifanc nad ydynt
mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant
ac yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ymgorffori'r gwaith hwn yn
ei fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid.
3. Yn croesawu Cynllun Grantiau'r Cyfamod Cymunedol, gwerth £30 miliwn, y mae Llywodraeth y DU wedi'i lansio ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i hyrwyddo'r cyfleoedd
sydd ar gael
i gymunedau lleol gryfhau’r cyswllt a’r gyd-ddealltwriaeth
rhwng aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog a’r gymuned
ehangach y maent yn byw ynddi.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sicrhau bod digon o gapasiti o fewn y GIG i alluogi
aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog yng
Nghymru sy’n dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma
gael gofal priodol, gan gynnwys
mynediad at arbenigwyr a chymorth brys a seibiant digonol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sicrhau bod aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog yng
Nghymru yn cael y driniaeth feddygol flaenoriaethol y mae ganddynt hawl
iddi drwy drefnu bod Byrddau Iechyd Lleol yng
Nghymru yn rhoi dull cyson ar waith ar
gyfer adnabod aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog; i sicrhau bod aelodau
o Gymuned y Lluoedd Arfog yn ymwybodol
o'r hyn y mae ganddynt hawl
iddo; ac i fonitro'r gwaith o ddarparu'r hawl honno.
6. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i sicrhau
bod Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru
yn sefydlu perthynas â Chanolfan Adferiad Meddygol y Gwasanaeth Amddiffyn yn Headley Court.
Mae Pecyn Cymorth diweddaraf Llywodraeth Cymru i Gymuned
y Lluoedd Arfog yng Nghymru ar
gael o’r ddolen ganlynol:
http://wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/safety/armedforces/packagesupport/?skip=1&lang=cy
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 06/11/2013
Dyddiad y penderfyniad: 05/11/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/11/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad